Econ Breakfast

16 November 2016

Y farchnad eiddo i aros yn sefydlog

Dylai cyfraddau llog isel a gwell cyfraddau cyflogaeth gadw’r farchnad eiddo yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd nesaf yn ôl economegydd blaenllaw.

Daeth datblygwyr eiddo, buddsoddwyr a gweithwyr proffesiynol amrywiol o bob rhan o Gymru at ei gilydd yn seminar brecwast economeg Cymdeithas Adeiladu’r Principality yng Nghaerdydd, i drafod yr economi yng Nghymru a gweddill y DU.

Roedd Ed Stansfield, prif economegydd eiddo yn Capital Economics, yn bwyllog obeithiol ynglŷn â’r rhagolygon economaidd a’r farchnad eiddo yn y DU.

Meddai Mr Stansfield: 
““Mae’n debygol y bydd rhywfaint o gymedroli yng nghyflymdra twf economaidd yn y chwarter neu ddau nesaf, sy’n debygol o fod yn gymedrol ac yn fyrhoedlog. Disgwylir i lefel cyflogaeth ddal ei dir a thrwy gyfuno hynny â’r posibilrwydd o gyfnod hwy fyth o gyfraddau llog arbennig o isel, gobeithir y bydd hynny’n helpu i danategu prisiau eiddo yn y sectorau preswyl a masnachol. Felly, er ei bod bron yn sicr bod y gorau o’r cynnydd yn y farchnad eiddo y tu ôl i ni, mae’n rhy fuan i ragweld y camau cywiro nesaf.”” 

Meddai Peter Hughes, rheolwr gyfarwyddwr Principality Masnachol:

““Fel cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, rydym ni’n awyddus i gefnogi busnesau Cymru a’u gweld yn tyfu. Mae heriau o’n blaenau yn sgil ffactorau allanol megis Brexit, ond fel busnes, rydym ni mewn sefyllfa gadarn i ymdrin ag unrhyw ansefydlogrwydd. I’r perwyl hwn, mae Principality Masnachol yn parhau i groesawu busnes ac mae cleientiaid wirioneddol yn gwerthfawrogi’r pwyslais y mae’r is-adran yn ei roi ar berthnasoedd hirdymor yn y cyfnod heriol hwn. 

““Bu’r gweithgarwch yn ystod y flwyddyn yn amrywiol ac - yn unol â diben y Gymdeithas o geisio helpu pobl i ffynnu yn eu cartrefi, cefnogwyd amrywiaeth eang o brosiectau tai, gan gynnwys eiddo fforddiadwy ac wedi’i rentu, yn ogystal â chartrefi i bobl hŷn. Byddwn yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o ddatblygwyr yng Nghymru i fuddsoddi mewn cynlluniau sy’n darparu swyddi a chartrefi i bobl Cymru.”

Published: 16/11/2016