Wales House Price Index

15 July 2019

Cymru yw’r gorau yn y DU o ran twf blynyddol mewn prisiau tai

Roedd gan Gymru y gyfradd flynyddol uchaf o dwf mewn prisiau tai o bedwar cenedl y DU yn ystod ail chwarter 2019 (Ebrill– Mehefin), gyda chynnydd o 4.1% yn codi pris cyfartalog tai i £186,360.

Rhyddhawyd y ffigurau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu’r Principality ar gyfer Ch2 2019, sy’n dangos cynnydd a gostyngiad mewn prisiau tai yn y 22 o awdurdodau lleol Cymru.
Er y bu’r twf mewn prisiau tai yn ystod y chwarter diwethaf ledled Cymru yn weddol fach gyda mymryn o gynnydd o 0.1% i £186,360, mae prisiau tai wedi cynyddu 4.1% yn flynyddol o’u cymharu â’r adeg hon y llynedd. Hon yw’r gyfradd flynyddol uchaf o dwf mewn prisiau tai o bedwar cenedl y DU yn ystod Ch2 2019 wrth i Loegr adrodd lleihad o 0.1% mewn prisiau a’r Alban a Gogledd Iwerddon gynnydd o 0.5% a 3.5% yn y drefn honno.

Cred Tom Denman, Prif Swyddog Cyllid Cymdeithas Adeiladu’r Principality, fod y cynnydd blynyddol mewn prisiau tai yng Nghymru yn gysylltiedig â’r cynnydd mewn gwerthiannau cyn y Dreth Trafodiadau Tir ym mis Ebrill 2018 a arweiniodd at ostyngiad ar yr adeg hon y llynedd, yn hytrach nag unrhyw gynnydd sydyn mewn galw am dai yng Nghymru yn ystod Ch2 2019.

Sefydlodd chwe ardal awdurdod lleol brisiau uchaf newydd yn Ch2 2019: Pen-y-bont ar Ogwr (£169,980), Sir Gaerfyrddin (£166,057), Gwynedd (£187,142), Castell-nedd Port Talbot (£135,924), Sir Benfro (£204,281) a Bro Morgannwg (£261,450).

Dangosodd adroddiad y Principality hefyd duedd yn y tri mis diwethaf o gynnydd mewn prisiau tai ar hyd yr arfordir fel y gwelir yng Nghonwy, Sir Benfro a Bro Morgannwg, sy’n awgrymu galw mawr posibl am ail dai a thai gwyliau mewn ardaloedd arfordirol Cymru.

Dywedodd Tom Denman o’r Principality:

“Cafwyd mymryn o gynnydd o 0.1% mewn prisiau tai ym mis Mehefin o’u cymharu â’r chwarter blaenorol. Mae’r tueddiadau diweddar yng Nghymru yn dangos y bu’r farchnad yn gadarn yn wyneb ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd. Mae’n ymddangos bod tuedd o werthiannau tai ar i fyny ar arfordir Cymru, sydd efallai’n dynodi mwy o werthiannau o osodiadau gwyliau.”

“Mae tueddiadau’r farchnad dai yn debygol o barhau i adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn yr economi ehangach. Mae costau benthyca yn parhau yn hanesyddol isel ac mae’r farchnad lafur yn weddol iach. Bydd pobl mae’n siŵr yn chwilio am eglurder ynghylch Brexit yn ystod y chwarter nesaf, sy’n debygol o bennu’r lefelau hyder i brynu a gwerthu eiddo.”

Am fwy o wybodaeth ar newid mewn prisiau tai yng Nghymru ewch i: 
https://www.principality.co.uk/cy/mortgages/House-Price-Index

 

Published: 15/07/2019

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig