Steve Hughes, CEO of Principality Building Society

7 August 2019

Asedau’r Principality yn cyrraedd £10 biliwn wrth i’r Gymdeithas Adeiladu barhau i fuddsoddi yn y dyfodol

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi cyhoeddi canlyniadau hanner blwyddyn da wrth i’r strategaeth o dyfu ei busnes cynilion a morgeisi craidd barhau i gyflawni. Bu cynnydd o £285.6 miliwn mewn benthyciadau morgeisi manwerthu net yn ystod y chwe mis cyntaf eleni, gan ddod â chyfanswm yr asedau i dros £10 biliwn am y tro cyntaf yn hanes y gymdeithas adeiladu.

I gefnogi’r twf yn ei benthyciadau, cododd y Gymdeithas werth £315 miliwn mewn cyllid cyfanwerthu a chynyddodd ei chynilion manwerthu £176 miliwn, gan gynnal ei safle o fod ag un o’r cyfraddau cynilo mwyaf cystadleuol ar y Stryd Fawr.  

Roedd yr elw sylfaenol cyn treth yn £21.2 miliwn o’i gymharu â £27.4 miliwn ar gyfer y chwe mis hyd at fis Mehefin 2018 yn unol â disgwyliadau mewnol. Roedd y gostyngiad hwn wedi’i gynllunio a rhoddwyd gwybod i’r Aelodau am hyn ymlaen llaw ac mae wedi’i ysgogi gan:
Fuddsoddi sylweddol yn y broses o foderneiddio technoleg morgeisi a chynilion, ac yng ngallu canghennau i ddiwallu anghenion newidiol Aelodau.
Costau llog uwch drwy barhau i dalu cyfraddau cynilion sy’n well na’r cyfartaledd i Aelodau a’r costau o sicrhau cyllid cyfanwerthu tymor hwy.
Gostyngiad yn y portffolio benthyciadau gwarantedig wrth i’r Principality ddefnyddio cyfalaf ar gyfer benthyciadau morgeisi manwerthu.

Roedd yr elw statudol cyn treth yn £19.8 miliwn (Mehefin 2018: £24.9 miliwn) ac roedd wedi’i effeithio gan y ffactorau uchod ynghyd â symudiadau gwerth teg mewn deilliadau.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r Principality wedi ennill gwobr What Mortgage ar gyfer y Gymdeithas Adeiladu sy’n darparu’r Gwasanaeth Orau i Gwsmeriaid 2019. Adlewyrchir hyn yn Sgôr Hyrwyddwr Net y Gymdeithas sydd wedi gwella eto i 80.8% (31 Rhagfyr: 78.6%). Mae 8 o bob 10 Aelod yn dweud y byddent yn argymell y Principality i’w teulu neu eu ffrindiau ar sail pa mor fodlon y maent..   

Graphic to show the 2019 Interim Results performance highlights.

Dywedodd Steve Hughes, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality:

“Rwy’n falch iawn o berfformiad fy nghydweithwyr yn ystod y chwe mis cyntaf wrth i’n gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol wneud inni sefyll allan oddi wrth ein cystadleuwyr unwaith eto. Rydym ni wedi sicrhau twf mewn cefndir o farchnad morgeisi a chynilion hynod gystadleuol, ansicrwydd ynghylch newidiadau posibl i’r gyfradd sylfaenol a thrafodaethau Brexit. 
“Rydym ni’n parhau i ymrwymo i’r Stryd Fawr yng Nghymru a’r Gororau, er bod y banciau mawr wedi tynnu’n ôl. Er mwyn cynnal ein presenoldeb, mae’n bwysig bod ein Haelodau’n parhau i ddefnyddio a gwerthfawrogi eu canghennau lleol a’n hargymell ni i’w teulu a’u ffrindiau er mwyn i ni allu parhau i dyfu ein Cymdeithas. Yn wir, rydym ni wedi gweld trafodiadau mewn canghennau yn cynyddu yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ac rydym ni’n gwybod bod ein Haelodau yn gwerthfawrogi ein gwasanaeth personol gwych.

“Unwaith eto, mae ein tîm Masnachol wedi gwneud cyfraniad rhagorol i helpu i ddatblygu ein cymunedau, drwy sicrhau bod £50 miliwn ar gael mewn benthyciadau cystadleuol i helpu datblygwyr tai llai i adeiladu cartrefi ledled Cymru. Yng ngoleuni’r galw cynyddol, rydym ni wedi ychwanegu at y gronfa sydd wedi ei hymrwymo ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, a bellach, mae gennym £75 miliwn ar gael a fydd yn eu galluogi i fwrw ymlaen i greu tai fforddiadwy y mae mawr angen amdanynt. Mae eu hymdrechion rhagorol wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at fynd i’r afael ag Agenda Tai Cymru eleni ac mae’n enghraifft wych o sut y mae’r Principality yn gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau.”

Cafwyd cychwyn llwyddiannus i’r gwaith o godi arian ar gyfer y ddwy elusen bartrner, Teenage Cancer Trust Cymru a Cymdeithas Alzheimer’s Cymru, wrth i’r Principality roi £10,000 am bob un o’r pum buddugoliaeth gan Gymru wrth iddynt gwblhau’r Gamp Lawn ym mhencampwriaeth rygbi’r Chwe Gwlad. Cododd y cydweithwyr £50,000 arall, gan ddod â’r cyfanswm i £100,000 anhygoel yn ystod chwe mis cyntaf y bartneriaeth.

Mae’r Principality wedi ffurfio partneriaeth â 18 o ysgolion uwchradd ledled Cymru, gan fuddsoddi £160,000 a helpu miloedd o blant ysgol i ennill yr hyn sy’n cyfateb i TGAU mewn addysg ariannol. 
Mae gwersi’n cynnwys gweithdai cyllidebu ar gyfer aelwydydd, cynllunio ariannol, yswiriant, pensiynau, yn ogystal â pharatoi myfyrwyr i fod yn oedolion ac ar gyfer byd gwaith. 
Mae’r Principality eisoes wedi helpu dros 16,000 o fyfyrwyr uwchradd yng Nghymru yn rhan o’r rhaglen Dosbarth Busnes, Busnes yn y Gymuned ers 2016.

Dywedodd Steve: “Rwy’n falch iawn o’r ymdrechion y mae ein cydweithwyr wedi’u gwneud i wella bywydau pobl eraill. Dyna beth yr ydym ni’n ei gefnogi fel sefydliad. Mae ein buddsoddiad mewn addysg ariannol, er enghraifft, yn hanfodol o ran paratoi pobl ifanc ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol. Ein pobl yw ein hased pwysicaf a dyna sy’n gwneud i ni sefyll allan yn y sector, ac yn sgil ein hymdrechion i greu gweithle amrywiol a chynhwysol cawsom ein cydnabod unwaith eto yn un o’r lleoedd gorau i weithio yn y DU.”

Gan edrych ymlaen at ail hanner y flwyddyn, ychwanegodd Steve: “Byddwn yn parhau i geisio tyfu a buddsoddi yn ein busnes mewn ffordd sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy i’n Haelodau ac i sicrhau sefyllfa gref ar gyfer ein haelodau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
“Rydym ni’n disgwyl i ansicrwydd economaidd a gwleidyddol barhau yn ystod y chwe mis nesaf ac i’r prisiau yn y marchnadoedd morgeisi a chynilo barhau i fod yn gystadleuol iawn. Byddai unrhyw leihad yng nghyfradd sylfaenol y DU hefyd yn achosi rhagor o bwysau ar elw a gallai arwain at newidiadau i’r cyfraddau a gynigir i’n Haelodau. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ein sefyllfa o ran proffidioldeb a’n mantolen yn parhau i fod yn gadarn ac mae ein perfformiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi creu sylfaen gadarn er mwyn gallu buddsoddi ar gyfer y dyfodol.”

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael yr adroddiad interim llawn.

Uchafbwyntiau Perfformiad

Cyfanswm yr asedau wedi cyrraedd £10.1 biliwn (31 Rhagfyr 2018: £9.7 biliwn)
Balansau morgeisi manwerthu o £7,779.8 miliwn (31 Rhagfyr 2018: £7,494.3 miliwn)
Mae balansau cynilion wedi cynyddu £176.0 miliwn (30 Mehefin 2018: £309.3 miliwn)
Benthyciadau morgeisi manwerthu gros ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn o £795.8 miliwn (30 Mehefin 2018: £912.9 miliwn)
Elw statudol cyn treth o £19.8 miliwn (30 Mehefin 2018: £24.9 miliwn)
Elw sylfaenol cyn treth o £21.2 miliwn (30 Mehefin 2018: £27.4 miliwn)
Ariannwyd 81.3% o’r morgeisi gan gynilwyr (30 Mehefin 2018: 84.1%)
Cyfalaf cryf â chymhareb Ecwiti Cyffredin Haen 1 o 24.73% (30 Mehefin 2018: 25.21%)
Sgôr Hyrwyddwr Net Gwasanaeth i Gwsmeriaid o 80.8% (30 Mehefin 2018: 79.2%)
Elw llog net o 1.15% (30 Mehefin 2018: 1.29%)

  
 
 

Published: 07/08/2019

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig