Image of teacher and pupils with an activity from Dylan's Saving Squad - Teachers Hub on the board

28 June 2021

Principality yn lansio hwb digidol i gynorthwyo darpariaeth addysg ariannol mewn ysgolion

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru wedi lansio hwb addysg ariannol digidol i athrawon ledled Cymru i'w cynorthwyo wrth ddarparu sgiliau arian a chynilo o oedran ifanc. 

Yn rhan o'i hymrwymiad parhaus i addysg ariannol i bobl ifanc, mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi lansio Hwb Athrawon Sgwad Safio Dylan. Nod y llwyfan digidol dwyieithog yw hyrwyddo agweddau cyfrifol at arian, gan gynnig adnoddau, cynlluniau gwersi a chymorth cwricwlwm i helpu athrawon i ddarparu addysg ariannol mewn ffordd ddiddorol llawn hwyl.

Lluniwyd yr adnoddau i ddisgyblion rhwng 5 ac 11 oed gan y Principality mewn partneriaeth ag ymgynghorydd addysgol i gyd-fynd â chwricwlwm Donaldson, ac maent ar gael ar yr hwb. Gall athrawon yng Nghymru gael gafael ar yr adnoddau dwyieithog am ddim, a dewis rhwng cyflwyno'r rhaglen yn llawn neu ddewis gweithgareddau unigol ar wahân.

Mae gweithgareddau'r hwb yn cynnwys straeon gyda chymeriad cynilo Principality Dylan y Ddraig, gemau bingo a rhai sydd â thema y byd gwaith.

Mae Hwb Athrawon Sgwad Safio Dylan yn dilyn lansiad ap Cuddfan Dylan a’r Hwb Sgwad Safio yn benodol ar gyfer rhieni a phlant, a gyflwynwyd y llynedd. Ers hynny, mae dros 12,000 o rieni a phlant ledled Cymru wedi defnyddio'r ap a'r hwb ar-lein.

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu Principality: "Fel cymdeithas gydfuddiannol sydd wedi ymrwymo i addysg ariannol, Hwb Athrawon Sgwad Safio Dylan yw'r cam nesaf yn ein hymdrechion i hyrwyddo sgiliau cynilo yng Nghymru. Trwy gyflwyno hwb dwyieithog y gellir ei ddefnyddio mewn ffordd hyblyg i athrawon, gobeithiwn y bydd athrawon ymroddgar Cymru yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth wrth addysgu'r sgiliau bywyd ariannol gwerthfawr hyn. Mae adnoddau ar gael i rieni, plant ac athrawon bellach, sy’n golygu y gall pob plentyn yng Nghymru gael gafael ar wersi pwysig am arian a chynilo o oedran ysgol."

Dywedodd Mathew Thomas, Swyddog 'Hybu' gyda Chomisiynydd y Gymraeg: "Mae dysgu am werth arian a chynilo yn sgil bwysig i blant. Mae sicrhau bod y deunyddiau hyn ar gael yn ddwyieithog yn bwysig er mwyn creu cyd-destun ar gyfer siarad am arian drwy gyfrwng y Gymraeg o oedran ifanc; ac mae’r ffaith bod y gymdeithas adeiladu yn cyhoeddi'r fersiwn Gymraeg ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg yn dangos ei bod wedi ystyried gwasanaeth cyfartal i siaradwyr Cymraeg o'r cychwyn. 
 "Bu’n bleser cefnogi Principality wrth iddynt ddatblygu Sgwad Safio Dylan a'r  adnoddau cysylltiedig, ac rydym yn eu llongyfarch am eu hagwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg. Mae'r cydweithio rhyngom ni a'r Principality yn deillio o seminarau rydym yn eu trefnu ar gyfer banciau a chymdeithasau adeiladu. Diben y seminarau hyn yw dangos manteision defnyddio'r Gymraeg i'r sector. Mae defnyddio a gweld y Gymraeg yn bwysig i gwsmeriaid yng Nghymru, yn enwedig wrth drafod arian. Felly, mae'n wych gweld y Principality yn arwain gydag adnoddau ar-lein yn Gymraeg, a hyderwn y bydd yr ymateb yn gadarnhaol dros ben. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r Principality yn y dyfodol."

Ers 2019, mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi cyrraedd 39,000 o bobl ifanc gydag addysg ariannol a gweithgareddau sy'n seiliedig ar yrfaoedd.

I gael gwybod mwy, ewch i www.sgwadathrawondylan.cymru

Published: 28/06/2021

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig