Ein Haelodau

Mae bod yn Gymdeithas Adeiladu Gydfuddiannol yn golygu ein bod yn eiddo i'n 500,000 o Aelodau ac yn cael ein gweithredu er eu budd. Gan nad oes gennym unrhyw fuddiannau cyfranddalwyr i'w bodloni, mae ein holl elw yn mynd yn ôl i mewn i'ch Cymdeithas chi, er eich budd chi, ein Haelodau.

Beth yw Aelod?

Rydych yn Aelod o'r Principality os ydych dros 18 oed, a bod gennych gyfrif Morgais neu gyfrif Cynilo gyda ni.

Mae bod yn Aelod yn rhoi'r hawl i chi:

  • Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed
  • Herio y ffordd y caiff y Gymdeithas ei gweithredu
  • Gofyn cwestiynau i'r Bwrdd

Os ydych chi dros 18 a bod gennych dros £100 mewn cyfrif cynilo, neu dros £100 yn ddyledus ar gyfrif morgais bydd gennych hefyd hawliau pleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed

Mae gwrando ar Aelodau yn ein helpu ni i ddeall ble mae angen i ni ganolbwyntio a gwella, ond hefyd yr hyn y mae'n rhaid i ni barhau i'w wneud. Mae llawer o ffyrdd yr ydym yn gwneud hyn gan gynnwys drwy adborth ar-lein ac mewn canghennau.

Yn 2021, roeddem yn falch o lansio Llais Aelodau, cymuned ar-lein o Aelodau ledled Cymru a'r DU y gallwn ymgynghori â nhw, a chael safbwyntiau ac adborth mewn amser real ac yn rheolaidd.

Mae'r gymuned wedi cael cyfle da i gyfrannu at feysydd allweddol o'r Gymdeithas, gan gynnwys: 

  • Adborth ar gynhyrchion
  • Profi deunydd darllen
  • Arolwg amrywiaeth a chynhwysiant
  • Trafodaethau strategaeth
  • Cynaliadwyedd 

Byddem yn dwlu bod â chymaint o Aelodau yn cofrestru ar gyfer Llais Aelodau â phosibl, i sicrhau ein bod yn adeiladu dyfodol ein Cymdeithas, gyda'n gilydd. 

Llais Aelodau

Os oes gennych chi syniadau am sut gallwn ni wneud i Principality weithio ar eich cyfer chi, gadewch i ni eu clywed. Mae ein cymuned ar-lein, Llais Aelodau, yn eich rhoi chi wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud.

 

Mae eich Barn yn Bwysig

Gan ein bod yn gymdeithas gydfuddiannol flaengar, rydym eisiau clywed gennych chi ein Haelodau. Gallwch weld sut i ddweud eich barn yma.
 

Aelodau Ein Bwrdd

Mae gan ein Bwrdd ystod eang o sgiliau a phrofiad ac mae hyn yn eu galluogi i wella difidend ein Haelodau. Cwrdd â'r Bwrdd yma.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig