Cael cymorth y teulu i ymuno â’r ysgol dai: esbonio morgeisi Gwarantwr a Chyd-fenthyciwr Unig Berchennog

Last updated: 03/04/2023

You might be lucky enough to have parents, or other family members, willing and able to help you onto the property ladder. Financial support from your family could help you achieve your goals faster - but it's important you all go into it with a shared understanding. So what kind of help could you ask for from the “Bank of Mum and Dad”? 

Morgeisi gwarantwr

Diweddarwyd ddiwethaf: 31/12/2022

Mae morgeisi gwarantwr yn cynnig ffordd i rieni neu aelodau eraill o’r teulu ddefnyddio eu cynilion neu enillion i helpu eu plentyn i brynu cartref trwy ddefnyddio’r asedau hyn fel sicrwydd ar gyfer y morgais.

Mae’r math hwn o forgais yn boblogaidd i brynwyr tro cyntaf, yn enwedig y rhai sy’n cael trafferth i gasglu blaendal, ond gall hefyd fod yn ddefnyddiol i bobl sy’n cael trafferth i symud tŷ, efallai oherwydd bod ganddynt sgôr credyd gwael.

Er y gall y morgeisi hyn gynnig help llaw, mae hefyd yn bwysig gwybod os bydd prynwr yn methu a gwneud ad-daliadau, yna mae’n rhaid i’r gwarantwr gamu i mewn. Felly mae’n bwysig siarad â chynghorydd ariannol cyn ymrwymo i forgais gwarantwr.

Morgeisi Cyd-fenthyciwr Unig Berchennog

Dewis arall, sydd hefyd yn golygu rhieni neu neiniau a theidiau yn cynnig cymorth, yw morgais Cyd-fenthyciwr Unig Berchennog.

Mae benthycwyr yn trefnu morgais gydag aelodau teulu – rhieni neu neiniau a theidiau fel rheol – a fydd yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am y taliadau morgais, ond heb rannu perchnogaeth o’r eiddo.

Un o nodweddion deniadol morgais Cyd-fenthyciwr Unig Berchennog yw oherwydd mai’r plentyn yn unig sy’n cael ei enwi ar weithredoedd yr eiddo, gall y rhieni (neu’r nain a thaid) osgoi gordal y dreth stamp. Ceir manteision eraill, yn dibynnu ar ba ddarparwr benthyciadau y byddwch yn ei ddewis; er enghraifft, yn achos morgeisi Cyd-fenthyciwr Unig Berchennog Cymdeithas Adeiladu Principality, gellir derbyn hyd at bedwar ymgeisydd ar y morgais, ac nid oes isafswm incwm gofynnol ar gyfer y cais. Hefyd, gall eich perthnasau aros ar y morgais am y tymor llawn. Wrth gwrs, efallai y daw adeg pan fyddwch yn barod i’ch perthnasau ddod oddi ar y morgais, a gallwch ddewis gwneud hynny yn yr achos hwnnw.

 

Cliciwch ar yr adrannau isod i archwilio beth mae angen i chi ei wybod ar bob cam o’ch taith i brynu cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig