
Cwestiynau i’w gofyn cyn prynu tŷ
Rydych chi newydd gamu trwy’r drws ffrynt ac mae’n berffaith.
Diweddarwyd ddiwethaf: 07/04/2021
Ai dyma ddiwedd y chwilio am dŷ a’r amser i chi brynu eich cartref cyntaf? Efallai. Ond cyn i chi hyd yn oed meddwl am wneud cynnig, byddwch yn siŵr o gael atebion i gwestiynau hollbwysig i sicrhau nad oes unrhyw beth annisgwyl i ddod.
Isod mae rhai cwestiynau ar gyfer prynwyr tro cyntaf craff.
Bydd rhai ohonyn nhw i’r asiant eiddo neu’r gwerthwr eu hateb, ac eraill i chi feddwl amdanyn nhw ac ymchwilio iddyn nhw eich hun. Y gamp yw peidio byth â theimlo embaras yn gofyn cwestiwn, ni waeth pa mor hurt rydych yn teimlo.
Os yw wedi bod ar y farchnad am amser hir, darganfyddwch faint o archwiliadau a chynigion y mae wedi’u cael.
Peidiwch â bod ofn gofyn y cwestiwn hwn, oherwydd gallai’r ateb ddatgelu rhywbeth pwysig am yr eiddo neu’r lleoliad. Yn ystod y drafodaeth hon darganfyddwch a oes cadwyn.
Gall ffenestri newydd fod yn gostus iawn, ac ni fyddech eisiau hynny yn fuan ar ôl symud i mewn.
Darganfyddwch a allech chi barcio’ch car yn ddiogel heb orfod cerdded milltiroedd cyn cyrraedd eich drws ffrynt.
P’un a ydych yn ffrydio sioeau neu’n gweithio gartref, mae rhyngrwyd araf yn faich.
Gall rhai mathau o waith fod yn gostus, felly ystyriwch gael dyfynbrisiau gan grefftwyr a chynnwys y rhain yn eich cyllideb.
Ystyriwch a yw’r ystafelloedd yn ddigon mawr i chi a’ch dodrefn, ac a oes digon o le i storio pethau.
Mae cael boeler newydd yn gostus a gall hen foeler fod yn aneffeithlon iawn.
Efallai bod y rhain yn ymddangos yn fanylion bach, ond gall effeithio ar eich biliau ynni a’ch cysur.
Gallai hyn fod yn arwydd o broblemau mwy gydag amser. Wrth i chi ymchwilio i hyn, gofynnwch a fu unrhyw ymsuddo hefyd.
Gall hyn gynnwys pethau fel bariau, campfa, yr ysgol iawn neu orsaf drenau.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod sied gardd, ffwrn neu lenni yn rhan o’r pris. Mae’n hanfodol gofyn.
Yn ogystal â gofyn y cwestiwn hwn, yn ddelfrydol gallech chi dreulio ychydig o amser yn cael ymdeimlad o’r ardal agos: ewch am dro i weld a yw’n gyfeillgar ac wedi’i gofalu amdani.
Rydych chi eisiau gwybod a oes cais cynllunio ar gyfer datblygiad tai newydd a fyddai’n newid yr olygfa neu’n effeithio ar draffig neu barcio, er enghraifft.
Dychmygwch ddod nôl i’r tŷ ar ôl diwrnod hir o waith a rhoi eich traed i fyny; a fyddai’n teimlo fel cartref?
Pryd i ofyn
Efallai hoffech chi gael atebion i rai o’r cwestiynau hyn yn ystod ail archwiliad, efallai gyda rhywun arall fel pâr arall o lygaid.
Naill ffordd neu’r llall, mae’n werth cymryd eich amser i ddarganfod cymaint ag y gallwch am yr eiddo a’r cyffiniau. Wedyn, os byddwch yn gwneud cynnig, rydych yn gwneud hynny gan wybod eich bod yn ymwybodol o beth rydych yn ei gael am eich arian.
Cliciwch ar yr adrannau isod i archwilio beth mae angen i chi ei wybod ar bob cam o’ch taith i brynu cartref: