Sgamiau ar-lein
Gwe-rwydo
Bydd negeseuon e-bost gwe-rwydo yn ceisio eich twyllo, fel y gallan nhw ddwyn eich manylion mewngofnodi a/neu bersonol. Yn aml, byddan nhw’n gofyn i chi anfon manylion personol fel eich manylion mewngofnodi, eich cyfrinair neu'ch cwestiwn diogelwch.
Sut i nodi e-bost gwe-rwydo:
- Cadarnhewch pwy yw’r anfonwr go iawn yn y maes ‘oddi wrth’ – efallai na fydd cyfeiriad e-bost ac enw’r anfonwr yn cyfateb.
- Cadarnhewch y maes ‘i’ – os yw’n amhersonol ac yn cyfeirio atoch chi fel cwsmer neu ddefnyddiwr, yna mae hyn yn rhybudd gan fod cwmnïau go iawn yn defnyddio enwau pobl i’w cyfarch.
- A yw’r neges e-bost yn cynnwys bygythiad os na chaiff camau eu cymryd ar unwaith? Mae negeseuon e-bost gwe-rwydo yn cynnwys bygythiadau, fel cau cyfrif os na fyddwch chi’n gweithredu.
- A oes gan y neges e-bost atodiad nad ydych chi’n ei ddisgwyl? Os yw’n ddolen, hofrwch eich llygoden drosti cyn anfon – drwy wneud hynny gallwch chi weld a fydd yn mynd â chi i ddolen go iawn.
- Edrychwch am wallau sillafu a gramadegol, yn aml bydd negeseuon e-bost gwe-rwydo yn cynnwys gwallau.
Llais-rwydo
Llais-rwydo yw lle y bydd twyllwyr yn ceisio eich twyllo i roi gwybodaeth bersonol iddyn nhw dros y ffôn drwy esgus bod yn berson neu’n sefydliad rydych chi’n ymddiried ynddo fel cymdeithas adeiladu, CThEF neu’r heddlu. Bydd twyllwyr yn ceisio ennyn eich ymddiriedaeth er mwyn eich twyllo i roi manylion personol neu ddiogelwch.
Sut i nodi galwad llais-rwydo:
- Os bydd gennych chi unrhyw amheuon ynghylch galwad, hyd yn oed os byddwch chi’n adnabod y rhif ffôn, cofiwch y gall twyllwyr wneud i rif ymddangos ar sgrin eich ffôn er mwyn gwneud iddo edrych yn un go iawn, felly peidiwch ag ateb.
- Os yw’r galwr yn honni ei fod yn ffonio o’r heddlu, CThEF, DWP neu unrhyw un o asiantaethau eraill y llywodraeth i ofyn am wybodaeth, byddwch yn wyliadwrus. Ni ddylai neb ofyn i chi roi manylion banc neu wneud unrhyw daliadau iddyn nhw yn ystod galwad cychwynnol.
- Os bydd rhywun yn gofyn am eich enw defnyddiwr neu gyfrinair ar-lein, dewch â’r alwad i ben ar unwaith.
SMS-rwydo
Yn aml, bydd SMS-rwydo yn cynnwys neges destun sy’n tynnu sylw at weithgarwch twyllodrus ar un o’ch cyfrifon ac yn gofyn i chi ffonio rhif neu fynd i wefan. Mae twyllwyr yn defnyddio eich ymddiriedaeth i’ch twyllo i roi gwybodaeth bersonol iddyn nhw. Fel arfer, byddan nhw’n dweud wrthych fod eich cyfrif wedi bod yn destun gweithgarwch twyllodrus a byddan nhw’n gofyn i chi ffonio rhif neu fynd i wefan ffug i ddiweddaru eich manylion personol.
Beth i gadw golwg amdano:
- Cymerwch ofal gyda negeseuon sy’n cael eu hanfon o rifau anhysbys. Efallai na fydd hyd yn oed y rhai sy’n ymddangos yn rhai go iawn yn ddilys.
- Anwybyddwch geisiadau am wybodaeth bersonol.
- Peidiwch ag ymateb i negeseuon amheus.
- Gofalwch rhag ceisiadau ‘brys’.
- Osgowch hyperddolenni.
Sut i atal sgamiau digidol
Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth ynghylch dilysrwydd y neges e-bost, peidiwch â gwneud y canlynol:
- Clicio ar ddolenni.
- Agor unrhyw atodiadau.
- Darparu unrhyw wybodaeth bersonol neu ddiogelwch.
Wedi cael neges e-bost amheus?
Os ydych chi wedi cael neges e-bost amheus a dydych chi ddim yn siŵr a gafodd ei anfon gan Gymdeithas Adeiladu Principality, anfonwch neges e-bost atom.