
Cael Trafferth Talu Eich Morgais Siaradwch â ni
Cael Trafferth Talu Eich Morgais
If you're having problems paying your mortgage, we'll try our best to help you.
This page explains what steps you should take to help yourself, what steps we can take to help you and how we'll treat you fairly throughout. If you're facing financial difficulty, please don't ignore the problem.
Talk to us - our number and opening hours are on the right. Please give us a call.
- Beth allwch chi ei wneud
- Beth allwn ni ei wneud
- Cwynion a phroblemau eraill
Camau y gallwch eu cymryd ar unwaith:
- Dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl os ydych yn cael problemau wrth ad-dalu eich morgais neu os ydych yn meddwl efallai y byddwch yn cael problemau yn fuan.
- Chwiliwch am gyngor ar ddyledion i gael cymorth i reoli eich arian.
- Gwnewch yn siŵr bod unrhyw bobl eraill sy'n talu’r morgais ac unrhyw un sy’n gwarantu’r morgais yn cael gwybod beth sy’n digwydd.
- Gwiriwch a allwch gael unrhyw gredydau treth neu fudd-daliadau gwladol a allai helpu i gynyddu eich incwm.
- Os oes gennych bolisïau yswiriant, fel yswiriant diogelu incwm, gwiriwch p'un a fyddant yn helpu gyda'ch taliadau.
- Cadwch at y cynllun talu yr ydym yn cytuno arno gyda chi neu dywedwch wrthym os oes newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar y trefniant.
- Dywedwch wrthym os ydych yn symud i gyfeiriad newydd
Efallai y byddwch yn dymuno siarad ag ymgynghorydd proffesiynol, megis cynghorydd dyled neu gyfreithiwr, cyn ichi newid eich trefniadau morgais. Cynghorwn yn gryf eich bod chi’n chwilio am gyngor ar ddyled, annibynnol, am ddim.
Byddwn yn:
- Cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i drafod y mater.
- Siarad ag asiantaeth sy'n rhoi cyngor ar ddyledion (e.e. Cyngor ar Bopeth), os ydych yn dymuno inni wneud hynny.
- Rhoi amser rhesymol ichi dalu'r ddyled yn ôl.
- Dim ond dechrau trafodion i ailfeddiannu eich cartref os na ellir datrys y broblem gyda chi.
Efallai y byddwn yn gallu:
- Trefnu cynllun talu newydd gyda chi.
- Newid y ffordd yr ydych yn gwneud eich taliadau neu’r dyddiad yr ydych yn eu talu.
- Eich galluogi i ad-dalu eich morgais dros gyfnod hwy o amser. Dylech nodi y byddai hynny’n lleihau eich taliadau misol ond yn cynyddu’r cyfanswm y byddwch yn ei ad-dalu yn y pen draw.
- Newid y math o forgais sydd gennych.
Os nad ydym yn gallu cynnig unrhyw un o'r dewisiadau hyn, byddwn yn dweud wrthych pam. Os ydym yn gallu gwneud un o'r trefniadau hyn gyda chi, byddwn yn egluro sut y byddai'n gweithio ac yn rhoi amser ichi ei ystyried. Os na allwn gynnig unrhyw un o'r dewisiadau hyn, efallai y byddwn yn cytuno ichi aros yn yr eiddo i werthu'r eiddo eich hun, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Cwynion:
Os nad ydych chi’n credu ein bod wedi eich trin chi’n deg, gallwch gwyno i’r Adran Gwynion, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Blwch Post 89, Stryd y Frenhines, Caerdydd CF10 1UA. Os ydych o’r farn na ymdriniwyd â’ch cwyn yn foddhad, gallwch fynd â hi ymlaen i’r Ombwdsmon Ariannol. Mae’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn darparu gwasanaeth am ddim, annibynnol i ddefnyddwyr.
Y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol
Exchange Tower
Llundain E14 9SR
Ffôn: 0300 123 9 123
Materion eraill:
Efallai eich bod yn ystyried rhoi eich allweddi i ni. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn dal i fod mewn dyled i ni am unrhyw ddyled sy’n bodoli a chynghorir chi i drafod y dewis hwn gyda ni cyn cymryd unrhyw gamau o’r fath.
Talk to Us: 0330 333 4020
- 9am to 5pm, Monday to Friday
Useful Links
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
Ar gyfer cyngor annibynnol ar faterion ariannol a thai:
- Shelter (Lloegr) - 0808 800 4444 (Rhadffôn)
- Shelter Cymru - 0845 075 5005
- Llinell Ddyled Genedlaethol - 0808 808 4000 (Rhadffôn)
- Business Debtline - 0800 197 6026
- StepChange Debt Charity - 0800 138 1111 (Rhadffon)
- Advice UK - 020 7469 5700
- Payplan - 0800 917 7823 (Rhadffôn)
- Cyngor ar Bopeth (CAB) - 0844 477 2020 (Cymru)
If you’ve been affected by the pandemic and need help, please visit our dedicated support page:
Coronavirus Support Information
Principality. Lle mae cartref yn bwysig.