Overpaying your mortgage

Drwy dalu ychydig yn ychwanegol yn rheolaidd neu drwy gyfandaliad mawr, gallwch helpu i leihau balans cyffredinol eich morgais a swm y llog y byddwch yn ei dalu. Gallwch ordalu ar bob un o’n cynhyrchion morgais, gan gynnwys prynu i osod.

  • Lleihau’r swm sydd arnoch chi ar eich morgais
  • Lleihau’r llog cyffredinol yr ydych yn ei dalu
  • Fel arall, dewch i gael sgwrs â'n cynghorwyr morgeisi ynghylch lleihau cyfnod eich morgais
  • Bob blwyddyn, gallwch ad-dalu hyd at 10% o'r balans sy'n weddill ar 1 Ionawr.
  • Ar gyfer gordaliadau sydd dros 10% o’r terfyn blynyddol yn unig y byddai cosbau adbrynu sy’n gysylltiedig â chynnyrch yn berthnasol.
  • Pan fyddwch yn gwneud gordaliad, bydd y swm sy'n ddyledus gennych a swm y llog sy’n deillio yn cael eu hailgyfrif ar unwaith, ond ni fydd eich taliad morgais misol yn newid os na ofynnwch inni ei newid. *Os oes gennych forgais hyblyg, byddwch yn gallu gordalu ar unrhyw adeg yn ystod oes eich morgais a bydd eich taliadau misol yn cael eu hailgyfrif yn ystod ei adolygiad 6 misol rheolaidd.

Sut i ordalu eich morgais

Mae llawer o ffyrdd y gallwch ordalu eich morgais, gallwch:

  • Sefydlu archeb sefydlog
  • Gwneud taliad dros y ffôn
  • Dod i’r gangen i dalu a siec neu arian parod
  • Postio siec atom
  • Cwblhau trosglwyddiad banc ar-lein

Ni fyddwn yn anfon cadarnhad o’ch gordaliad, ond byddwch yn gweld y gordaliad a wnaed ar hanes y trafodion ar eich datganiad blynyddol. Os hoffech gael gwybod faint yw eich lwfans gordaliad, gallwch gysylltu â ni ar 0330 333 4000 neu gallwch ddod i un o’n canghennau ar unrhyw adeg.  

Wrth dalu yn uniongyrchol o’ch banc, gan gynnwys ag archeb sefydlog, dyfynnwch y manylion canlynol:

Rhif y Cyfrif: 90653535

Cod Didoli: 20-18-23

Cyfeirnod: Rhif Cyfrif Eich Morgais

GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS