
Here to help kickstart your savings
Compare our savings accountsYmunwch â’r Gymdeithas o Gynilwyr
Croeso i’n hwb cynilo ar-lein, y lle delfrydol ar gyfer y cyngor a’r awgrymiadau gorau ar gynilo arian. Gall hwn droi hyd yn oed y bobl sydd mwyaf amharod i gynilo yn gynilwyr deallus.
Rydym ni’n deall y gall cynilo fod yn anodd, a dyna pam yr ydym ni yma i’ch helpu. Mae gennym ni dros 150 mlynedd o brofiad o helpu ein Haelodau i wneud y mwyaf o’u harian.
3 ffordd o ddechrau cynilo
Dysgwch sut i droi newid bach yn wahaniaeth mawr
Cynilo o’ch cartref
Mae ein gwasanaeth Eich Cyfrif ar-lein yn golygu y gallwch chi gynilo lle bynnag a phryd bynnag yr ydych chi eisiau. Yn Eich Cyfrif, gallwch newid enw eich cyfrif cynilo i rywbeth sy’n golygu mwy i chi a chreu nod cynilo, gyda dyddiad a swm i anelu ato, i’ch helpu i’ch cadw chi ar y trywydd cywir. Cofrestrwch nawr.
Gwnewch y mwyaf o’ch cynilion gyda’n 4 awgrym gorau:
Gosodwch gyllideb
Cyfrifwch eich incwm misol a’ch holl gostau, yr holl filiau, bwyd, siopa, campfa, tanysgrifiadau, arian i fynd allan ac ati. Gallwch gynilo’r swm sydd gennych yn weddill.
Sefydlwch archeb sefydlog
Pan fyddwch wedi cyfrifo faint y gallwch chi fforddio i’w gynilo bob mis, sefydlwch archeb sefydlog ar gyfer pob diwrnod cyfog fel bod y swm yna’n mynd yn syth i gyfrif cynilo. Bydd hyn yn golygu na fydd angen i chi weld yr arian felly fyddwch chi ddim yn cael eich temtio.
Eisiau ac angen
Os allwch chi gymryd cam yn ôl a gofyn i’ch hunan os ydych chi wir angen y pryd parod, siaced newydd neu ddiod gyda’ch pryd o fwyd, byddwch chi’n gallu arbed arian a chynilo mwy.
Defnyddiwch arian parod yn hytrach na chardiau
Mae hi mor hawdd nawr i dapio a mynd, ond os byddwch chi ond yn tynnu allan y swm o arian yr ydych chi eisiau ei wario ar siopa, nosweithiau allan neu brydau bwyd, a gadael eich cerdyn adref, fyddwch chi ddim yn gallu gorwario.
Dod o hyd i’r cyfrif cywir i chi
Defnyddiwch ein cyfrifiannell cynilo i ddod o hyd i’r cyfrif cywir i chi.
Rydym ni’n cynnig dewis o gyfrifon cynilo.
Yn dibynnu ar yr hyn yr ydych chi’n cynilo ar ei gyfer, gallwch ddewis rhoi eich arian mewn bond am gyfnod penodol, cynilo yn rheolaidd, neu fod â’r gallu i ddefnyddio eich arian pryd bynnag y mae angen i chi wneud hynny.
Edrychwch ar ein dewis o gynnyrch cyniloMathau o gyfrifon cynilo
Eich barn chi amdanom ni
Oes gennych chi adborth yr ydych eisiau ei rannu? Rhannwch gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #societyofsavers #cymdeithasogynilwyr ac edrychwch ar y dyfyniadau eraill isod!



^ Mae di-dreth yn golygu bod y llog yr ydych yn ei ennill wedi’i eithrio o Dreth Incwm y DU a Threth Enillion Cyfalaf. Gallwch fod â nifer o gyfrifon ISA cyn belled ag y bod ond yn tanysgrifio i un cynnyrch ISA Arian Parod am bob blwyddyn dreth (6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf). Mae’r driniaeth dreth yn dibynnu ar eich amgylchiadau
Savings News

Canllawiau a Chymorth Darllenwch fwy o gyngor ar gynilo ac atebion i'ch cwestiynau ar gynilion ac ISAs.

Members Get More See how you could be getting more from being a Principality Member.
Rydym wedi ein cynnwys yng Nghyllun Digolledu'r Gwasanaethau Ariannol.
Principality. Lle mae cartref yn bwysig.