Syniadau storio clyfar ar gyfer teuluoedd sy'n tyfu

Diweddarwyd ddiwethaf: 21/01/2022

Mae bod â digon o le yn beth gwerthfawr yn eich cartref. Ac mae hyn yn dod yn fwy amlwg wrth iddo ddechrau diflannu. Os oes gennych chi deulu sy'n tyfu hefyd, efallai y bydd yn teimlo fel bod y waliau'n dechrau cau i mewn arnoch chi.

Felly sut allwch chi adennill y lle hwn? Dyma ychydig o syniadau storio clyfar a allai eich helpu i dacluso a chreu mwy o le yn eich cartref teuluol.

Ychwanegu silffoedd agored

Un o'r ffyrdd gorau o greu mwy o le storio yw defnyddio gofod fertigol. Gallwch ddefnyddio unrhyw ran o wal sy’n rhydd, a gallwch gyfuno storio gydag addurno.

Mae silffoedd yn lle da i ddechrau. Gallwch eu gosod mewn bron unrhyw ystafell, maen nhw'n rhad i'w prynu, a gallwch chi eu rhoi ar y wal eich hun.

Yn gynyddol, mae silffoedd agored yn cael eu defnyddio i arddangos eitemau a fyddai wedi'u cuddio i ffwrdd y tu ôl i ddrysau cwpwrdd o'r blaen. Er enghraifft, gallech chi roi silffoedd uwchben y peiriant golchi, a rhoi eich hanfodion golchi dillad mewn cynwysyddion fel jariau gwydr. Gallech chi hefyd labelu basgedi ar gyfer gwahanol fathau o ddillad golchi.

Meddyliwch am y rhannau nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio, fel y gofod ar y wal uwchben y drysau. Mae'r rhain yn fannau delfrydol i storio llyfrau, neu eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio bob dydd. Gallech chi hyd yn oed fynd o amgylch y drws cyfan, ac ychwanegu rhai planhigion i fywiogi pethau.

utility room storage

Delwedd o Decor Scan

Cynnwys storio yn eich dodrefn

Mae llawer o blant wedi 'tacluso' eu hystafell wely drwy daflu eu holl annibendod o dan y gwely, a gobeithio na fydd eu rhieni'n sylwi. Ond mewn rhai ffyrdd, mae'n syniad eithaf clyfar. Mae o dan y gwely yn fan gwych i storio, wedi'r cyfan.

Os nad oes droriau yn rhan o’ch gwely yn barod, gallwch ddefnyddio cynwysyddion plastig ar gyfer dillad y gaeaf/haf. Gallech chi hyd yn oed ddefnyddio blychau ar olwynion i'w gwneud yn hawdd eu rholio i mewn ac allan. 

Cyn buddsoddi mewn cynwysyddion newydd, cofiwch fesur y gofod o dan y gwely, i wneud y mwyaf o'r lle, ac osgoi prynu unrhyw beth sy’n rhy fawr i'r bwlch.

Ac mae digon o eitemau o ddodrefn y gallwch chi eu defnyddio i gadw eich pethau. Gallwch chi ddefnyddio cwpwrdd modern neu gist ddroriau fel eich stand teledu, a'i ddefnyddio i storio eich  ffilmiau,  cerddoriaeth, gemau ac adloniant arall. Mae byrddau coffi gyda nifer o lefelau neu ddroriau hefyd yn ddefnyddiol, a gellir defnyddio stôl droed Ottoman i storio blancedi.

wheeled under-bed storage

Delwedd gan Jaime Costiglio

Gwneud storio yn hwyl yn ystafelloedd y plant

Dim 'rhoi pethau i ffwrdd' yn unig yw storio. Gall fod â’r dodrefn storio amlbwrpas cywir yn ystafelloedd y plant ei droi'n brosiect celf neu chwarae llawn hwyl (neu'r ddau!). Er enghraifft, gall dodrefn Trofast o Ikea y gallwch eu gosod fel y dymunwch – wedi'i gyfuno gyda wal fwrdd sialc – greu canlyniadau gwych.

O ran silffoedd agored, gallech ail-bwrpasu dodrefn storio fel hen silffoedd llyfrau neu unedau DVD. Gallech chi hyd yn oed gael eich plant i'w paentio i roi stamp personol ychwanegol arnyn nhw. Ar ôl iddyn nhw sychu, gosodwch nhw ar ran o wal heb ei defnyddio, fel o gwmpas ffenestri neu ddrysau. Yna gall eich plant greu arddangosfa gan ddefnyddio eu hoff bethau.

Gallai'r gwely ei hun hefyd roi digon o le i storio. Gallech chi gael gwely uchel, er enghraifft, a allai fod â desg yn rhan ohono. Neu gallech chi fynd cam ymhellach drwy osod lefel mezzanine. Dwy ystafell mewn un!

children's bedroom storage

Delwedd o IKEA

Rhoi trefn ar eich cwpwrdd dillad

Mae cypyrddau dillad sy’n rhy llawn yn nodwedd gyffredin mewn cartrefi. Er mwyn gwneud y mwyaf o gwpwrdd dillad ac atal gorlenwi, mae ychydig o gamau syml y gallwch chi eu cymryd. A'r cyntaf yw tynnu popeth allan, a chael gwared ar unrhyw beth nad ydych chi yn ei ddefnyddio. Os oes unrhyw beth heblaw dillad ffurfiol achlysurol nad ydych wedi'i wisgo yn ystod y 12 mis diwethaf, rydych chi’n gwybod beth i'w wneud – ei werthu neu ei roi i elusen.

Nawr bod y cwpwrdd dillad yn wag, gallwch ei lanhau yn dda, a dychmygu sut yr ydych chi'n bwriadu trefnu eich cwpwrdd dillad o’r newydd. Gallwch chi helpu i wneud y defnydd gorau o'r lle drwy brynu trefnwyr cwpwrdd dillad, y gallwch eu cael yn rhad. Unwaith eto, hyd yn oed os nad ydych chi'n hoff o Ikea, mae'n dda iawn ar gyfer y math hwn o beth. A bydd rac esgidiau dros y drws yn gwneud y defnydd gorau o gefn drws y cwpwrdd dillad.

Pan fo’n amser rhoi popeth yn ôl i mewn, cofiwch grwpio pethau gydag eitemau tebyg, a chadw'r dillad yr ydych chi'n eu gwisgo amlaf yn y tu blaen. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i grwpio dillad yn ôl y tymor.

wardrobe organisers

Delwedd o The Every Girl

Ychwanegu lle storio yn y cyntedd a defnyddio’r lle o dan y grisiau

Fel ffordd o gyrraedd eich prif ystafelloedd, mae pen y grisiau a’r cyntedd yn aml yn fannau sy’n cael eu hanghofio fel lle i gadw pethau. Oherwydd hynny, maen nhw’n berffaith ar gyfer gwneud y mwyaf o'ch potensial storio.

Gallech chi osod cwpwrdd esgidiau, er enghraifft. Gall y rhain fynd i mewn yn rhyfeddol o dynn i'r wal, a gallan nhw storio llawer iawn o esgidiau allan o'r golwg. Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth, mae gan Argos ddewis da o gypyrddau a raciau esgidiau.

Neu gallech chi osod cwpwrdd ar gyfer dillad awyr agored, gyda rhan ar gyfer pob aelod o'r teulu – a lle ar gyfer hetiau, cotiau ac esgidiau, er enghraifft. Unwaith eto, mae hyn yn gwneud y gorau o'r gofod fertigol.

Mae'r ardal o dan eich grisiau yn gartref posibl ar gyfer llawer iawn o drugareddau. Os nad oes gennych gwpwrdd dan y grisiau, gallwch wneud eich silffoedd eich hun ar gyfer amrywiaeth o wahanol eiddo. Neu ewch un cam ymhellach, a'i droi'n lle ar gyfer desg.

Gall dod o hyd i leoedd ar gyfer eich holl eiddo fod yn anodd iawn, yn enwedig gyda theulu sy'n tyfu a’r galw ar eich tŷ yn newid drwy’r amser a'r hyn y mae angen iddo ei gyflawni i chi. Ond  gall y newidiadau a'r ychwanegiadau bach hyn wneud gwahaniaeth sy’n golygu y gallwch chi wneud y gorau o'ch cartref.

under stair storage

Delwedd gan Alice Elizabeth Still

Os ydych chi wir yn rhedeg allan o le, ydych chi wedi ystyried ychwanegu at eich cartref? Dysgwch fwy am estyniadau i'ch cartref ac addasiadau croglofft i weld beth allai fod yn iawn i chi.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig