Creu gofod swyddfa ysbrydoledig gartref

Diweddarwyd ddiwethaf: 04/02/2022

Ar ôl cyfnod hir o weithio gartref i lawer ohonom, gall ailwampio eich swyddfa gartref fod yn ysgogiad gwych. Dyma rai newidiadau syml ond effeithiol y gallwch chi eu gwneud wrth greu neu adfywio swyddfa gartref.

Bod â’r gadair a'r ddesg gywir ar gyfer eich ystum

correct sitting posture

Os ydych chi'n gweithio gartref fwy neu lai yn llawn amser, mae'n werth buddsoddi mewn cadair swyddfa briodol. Er bod llawer wedi bod yn defnyddio cadeiriau wrth fwrdd, nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir, a gall achosi problemau i’ch cefn. Gall olygu gwario ychydig o bunnau, ond ceisiwch brynu cadair swyddfa addasadwy, yn ddelfrydol gyda chymorth i’r meingefn. Efallai y gallwch brynu un rhad yn eich ardal ar Gumtree neu safle ail-law arall.

Yn yr un modd, er mwyn sicrhau eich bod yn eistedd â’r ystum cywir, efallai y bydd angen i chi addasu uchder eich bysellfwrdd. Gallech ddefnyddio blwch i wneud hyn. Neu gallech fuddsoddi mewn codwr desg priodol, nad yw’n costio llawer, a gallai fod yn storfa hefyd i gadw eich desg yn daclus a threfnus.

Awgrym:
Os oes gennych gath sy'n hoffi gwneud ei hun yn gartrefol ar eich gliniadur, bydd ei ongli gyda chodwr gliniadur yn golygu na fydd yn rhaid i chi ei hel hi ymaith.

Mae'n hysbys bellach y gall eistedd i lawr am gyfnodau hir achosi problemau iechyd. Am y rheswm hwn, gallech ystyried desg sefyll gwbl addasadwy, a gweld os yw sefyll i fyny wrth dapio’r allweddell yn addas i chi. Bydd newid safleoedd yn ystod y dydd yn helpu i gadw'r gwaed i lifo, ac yn atal stiffrwydd yn eich cyhyrau a'ch cymalau.

Mae'r llun hwn yn dangos yr ystum eistedd cywir wrth weithio wrth eich desg.

Delwedd o Chair Office

Ychwanegu monitor arall

I'ch arbed rhag newid yn ôl ac ymlaen o un ffenestr i’r llall, mae bod ag ail fonitor yn ffordd ddefnyddiol iawn o amldasgio. A phan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer tasgau gwaith, gallwch chi wylio fideos ymlaciol o YouTube ar sgrin lawn, er enghraifft teithiau cerdded ar draethau ynys bellennig - i'ch rhoi mewn hwyliau da.

Ystyried y gofod

Yn aml, yr arfer wrth sefydlu swyddfa gartref yw rhoi desg yn erbyn y wal. Ond a yw hyn yn gweithio i chi mewn gwirionedd? Os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich cau i mewn, neu fod rhywbeth ar goll yn y safle hwn, yna rhowch gynnig ar wynebu'r ystafell. Neu gweithiwch ger ffenestr, os gallwch chi. Mae cael yr argraff fod gennych ddigon o le yn gwneud byd o wahaniaeth i'ch amgylchedd gwaith.

Newid eich goleuadau

SAD lamp

Mae bod â swyddfa wedi'i goleuo'n dda yn gwneud gwahaniaeth mawr. Yn benodol, bydd golau naturiol yn sicrhau eich bod yn fwy effro. Mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod golau dydd yn y swyddfa yn debygol o wella cwsg, sy'n golygu y byddwch yn fwy effro a chynhyrchiol y diwrnod canlynol hefyd.

Os nad ydych yn gallu gweithio ger ffenestr, gallech newid i olau sy'n dynwared golau naturiol. Gall lampau SAD fod yn fuddsoddiad gwerth chweil, ac yn helpu i gynnal eich lefelau egni, yn enwedig drwy fisoedd y gaeaf.

Delwedd o Insider

Gwella eich cymwysterau gwyrdd

office plants

Bydd cael planhigion dan do yn rhoi bywyd newydd i'ch swyddfa. Bydd hyn yn helpu i gadw'r swyddfa'n ffres, ac yn ychwanegu rhywfaint o liw sydd i'w groesawu'n fawr.

Delwedd o Garden Trading

Cadwch y swyddfa’n siriol

scandanavian style office

Yn ogystal â gosod planhigion, gwnewch yn siŵr bod eich gofod swyddfa yn braf ac yn siriol. Cadwch liwiau'n llachar ac yn ysgafn. Dylai'r lliw amlycaf fod yn olau, ac nid yn rhy amlwg. Nid yn unig bydd y lle yn fwy deniadol, ond bydd yn helpu i'ch ysgogi chi, ac yn sbarduno creadigrwydd.

Gosodwch gardiau post a lluniau o anwyliaid o amgylch yr ystafell, os nad oes gennych chi rai yno’n barod. A dylai delweddu'r hyn yr ydych yn gweithio tuag ato hefyd helpu i'ch ysgogi. Efallai ychwanegu pinfwrdd, gyda lluniau o nodau, fel gwyliau y byddech wrth eich bodd yn mynd arnyn nhw.

Delwedd gan Edgar Santos

Gwahanu eich gwaith a'ch cartref

office divider

Mae bod â rhaniad clir rhwng eich diwrnod gwaith a'ch bywyd cartref yn bwysig iawn ar gyfer eich cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac felly eich iechyd meddwl. Felly mae'n syniad da mynd am dro cyn ac ar ôl gwaith. Fe'ch cynghorir hefyd i osgoi pylu llinellau ffisegol eich cartref a'ch swyddfa. Gwnewch linell glir, a chau'r drws pan fyddwch chi wedi gorffen am y dydd.

Beth os nad oes gennych ddigon o le, ac na allwch gau'r drws yn eich swyddfa gartref? Mae bob amser yn werth gwneud ymdrech i glirio eich gweithle ar ddiwedd y dydd. Os oes gennych liniadur, rhowch ef o’r neilltu. Os oes rhaid i chi weithio wrth ddesg yn eich ystafell wely, gallech chi osod rhaniad, a chau'r ardal honno am y noson. Wedi'r cyfan, nid ydych eisiau cael eich atgoffa’n gyson am eich gwaith yn ystod eich amser personol.

Delwedd o Kreis Design

Cyn dechrau adfywio eich swyddfa, edrychwch ar yr awgrymiadau ar gyfer arbed arian DIY ar gyllideb.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig