Tasgau garddio syml ar gyfer dechrau'r flwyddyn

Diweddarwyd ddiwethaf: 21/01/2022

Trueni dros eich gardd. Mae hi wedi cael ei gadael i ddioddef effeithiau gwaethaf tywydd yr hydref a'r gaeaf, heb y gofal a'r sylw y byddwch chi’n eu rhoi iddi yn y gwanwyn a'r haf.

Ond hyd yn oed ym misoedd gaeafol Ionawr, Chwefror a mis Mawrth, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud yn yr ardd i'w chadw’n iach ac yn barod am fywyd newydd y gwanwyn.

A dweud y gwir, mae'n amser gwych i gynllunio ar gyfer y flwyddyn arddio sydd i ddod a gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw. Dyma rai ffyrdd o wneud y gorau o fisoedd y gaeaf yn eich gardd.

Glanhau yn barod ar gyfer y gwanwyn

Cliriwch yr ardd a pharatowch ar gyfer y gwanwyn.

Os oes gennych chi dŷ gwydr, efallai y bydd wedi cael ei esgeuluso erbyn yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond gall ei lanhau wneud gwahaniaeth mawr yn y flwyddyn sydd i ddod; drwy gael gwared ar unrhyw faw a budreddi, byddwch yn gadael mwy o olau i mewn.

Hefyd, manteisiwch ar y cyfle i glirio llwybrau, patios, deciau a grisiau, sy'n debygol o fod wedi’u gorchuddio â dail ac algâu llithrig.

Palu ymlaen

Os nad ydych chi wedi palu eich llain neu welyau llysiau, dyma'r amser perffaith i wneud hynny. Bydd eu palu’n dda yn gwella strwythur ac ansawdd eich pridd, yn barod i dyfu.

Os dim arall, bydd ychydig o balu egnïol yn eich cynhesu ar ddiwrnod gaeafol oer a chlir. 

Osgowch bridd sydd wedi rhewi neu sy’n llawn dŵr.

Diogelu tapiau allanol

Gall tap wedi rhewi gynyddu'r risg y bydd pibell yn byrstio. Felly, os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn barod, gorchuddiwch y tap i’w ddiogelu rhag yr oerfel - gallwch brynu gorchuddion tap rhad mewn siopau DIY neu ar-lein. Hefyd rhowch ddeunydd lagio (inswleiddio) ar y bibell sy'n arwain at y tap, os yw'n agored i’r elfennau.

Helpu adar lleol

Mae misoedd y gaeaf yn anodd i adar yr ardd. Ond mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i'w helpu a gwneud eich gardd yn lle diogel a defnyddiol iddyn nhw ymweld â hi yr adeg hon o'r flwyddyn.

Mae hynny'n cynnwys  rhoi bwyd iddyn nhw. Cadwch yr offer bwydo adar yn llawn a gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi bwyd brasterog (fel peli braster) i’w helpu drwy'r misoedd pan na fydd llawer o eirin ar y coed.

Ceisiwch roi cysgod iddyn nhw hefyd drwy osod blychau nythu. Gallech chi hyd yn oed osod un â chamera y tu mewn, fel y gallwch chi wylio adar yn magu eu cywion bach.

Tocio Rhosod

Mae diwedd y gaeaf (Chwefror neu Fawrth) yn aml yn amser da i docio rhosod, cyn i'r dail ymddangos. Torrwch y planhigyn yn ôl i tua hanner i greu siâp crwn cyson.

Tocio coed ffrwythau

Os oes angen i chi docio unrhyw lwyni collddail neu goed ffrwythau, gwnewch hynny yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn cyn i'r sudd ddechrau codi a chyn i’r blagur ddechrau ymddangos.

Paratoi ar gyfer tyfu llysiau

Erbyn canol mis Chwefror, byddwch chi yng nghyfnod hau llysiau cyntaf y flwyddyn. Gallwch chi hau llysiau caled fel shibwns, betys, letys a sbigoglys mewn hambyrddau dan do ac yna eu plannu yn yr awyr agored pan fyddan nhw’n ddigon mawr i ymdopi â’r oerfel.

Erbyn mis Mawrth gallwch chi blannu amrywiaeth enfawr o lysiau gan gynnwys ffa llydan, nionod a brassicas cynnar, fel bresych a blodfresych. Erbyn diwedd mis Mawrth, gallwch chi blannu rhai mathau o datws cynnar hefyd.

Dechrau chwynnu

Dyw chwyn ddim yn rhoi llawer o seibiant i arddwyr ac erbyn mis Mawrth, byddan nhw'n dechrau saethu i fyny. Felly, gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau mynd i'r afael â'r planhigion hyn sy’n gallu achosi problemau. Defnyddiwch fforc llaw a thynnu’r gwreiddiau i gyd oddi yno.

Glanhau'r peiriant torri gwair

Peidiwch ag aros nes bod angen i chi dorri’r glaswellt cyn edrych pa stad sydd ar y peiriant.

Cynlluniwch ymlaen llaw i wneud yn siŵr ei fod mewn cyflwr da cyn bod angen torri’r glaswellt am y tro cyntaf yn y gwanwyn. Cofiwch lanhau unrhyw hen laswellt oddi arno. Efallai y bydd angen newid yr olew hefyd neu finiogi ei lafn. Byddai rhai garddwyr brwd yn eich cynghori chi i gael plwg tanio newydd ar ddechrau pob tymor torri hefyd.

Rydych chi’n barod am y gwanwyn

Gall llawer o'r tasgau hyn deimlo fel gwaith caled ym misoedd y gaeaf, ond er gwaetha'r oerfel, mae'n ffordd gynhyrchiol o dreulio diwrnod gaeafol clir. A phan ddaw’r gwanwyn, byddwch yn falch iawn o gamu allan i ardd sydd wedi’i chynnal a’i chadw’n dda ac sy'n barod i chi ei mwynhau a gwneud y gorau ohoni yn ystod misoedd cynhesach y flwyddyn. Mwynhewch y garddio!

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig