Estyniad i’r cartref: Gwneud y gwaith eich hun neu alw ar yr adeiladwyr?

Diweddarwyd ddiwethaf: 10/02/2022

Mae ychwanegu estyniad at eich cartref yn ffordd wych o greu mwy o le y gellir ei ddefnyddio, ac mae angen mwy o le ar bawb?

Ond eto, gan fod y proffesiwn adeiladu’n ffynnu ac wedi cyrraedd ei anterth, mae’n gyffredin gorfod trefnu gweithwyr â sgiliau fisoedd ymlaen llaw. Mae hyn yn peri problem os ydych yn dymuno gwneud gwaith yn y dyfodol agos, oherwydd bod cael gafael ar adeiladwyr ar fyr rybudd yn anodd, a dweud y lleiaf.

Ond pa mor ymarferol yw gwneud hynny eich hun? Dyma rai camau y gallwch eu cymryd os ydych chi awydd mynd amdani, ac adeiladu eich estyniad eich hun.

Yr hyn y mae’n bosibl ei wneud heb weithiwr proffesiynol

Mae faint yr ydych yn ei wneud eich hun yn dibynnu ar eich profiad, eich sgiliau a’ch hyder. 

Er nad yw wedi’i hyfforddi i wneud gwaith adeiladu, gweddnewidiodd Nick Evans, sy’n frwdfrydig dros wneud gwaith ei hun ac sy’n byw yn Sir Benfro, garej yn ystafell wely ar ei ben ei hun.

“Mewn gwirionedd, gallwch chi wneud y cyfan eich hun,” medda Nick. Ond ychwanega fod nwy yn eithriad, oherwydd gofyniad cyfreithiol i ddefnyddio peiriannydd sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy, ac mae’n ddoeth cael trydanwr ar gyfer gwaith trydanol hefyd.

Mae cynllunio’n allweddol

Yn gyntaf oll, meddyliwch beth yn union yr ydych yn dymuno ei gyflawni, a gwnewch gynlluniau. Os ydych yn dymuno cadw eich cyllideb i lawr, mae’n well dewis dyluniad syml, fel petryal gyda tho ar oleddf.

Hefyd, ceisiwch gadw’r gwaith sylfaenol mor syml â phosibl. Os gallwch wneud hynny, dylech osgoi ardaloedd â phibellau, draeniau a choed. Gwnewch yn siŵr bod eich costau’n cynnwys y sylfeini adeiladu.

A fydd angen caniatâd cynllunio arnaf?

Gallwch adeiladu rhai estyniadau yn unol â’r hawliau datblygu a ganiateir, sy’n golygu efallai na fydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio. Mae rhai cyfyngiadau i’w cadw mewn cof:

  • Ni ddylai arwynebedd estyniadau cefn nac ochr fod yn fwy na 50% o gyfanswm yr arwynebedd sydd ar gael o amgylch yr eiddo.
  • Mae’n rhaid i’r ymddangosiad allanol gydweddu â’r tŷ a’r gymdogaeth.
  • Ni chaiff lled estyniadau ochr fod yn fwy na 50% o led y tŷ presennol.
  • Tri metr yw uchafswm yr hyd ar gyfer estyniadau cefn ar gyfer tai teras neu dai pâr. Mae’n mynd hyd at 4 metr ar gyfer tai sengl.
  • Dim ond estyniadau unllawr a ganiateir os yw’r pellter oddi wrth y ffin yn llai na 2 fetr.
  • Mae’n rhaid i uchder estyniadau unllawr fod yn llai na 4 metr. Ni chaiff estyniadau deulawr fod yn fwy na bondo presennol y tŷ.
  • Ni chaniateir balconïau na therasau o dan yr hawliau datblygu a ganiateir.

Beth yw’r Rheoliadau Adeiladu?

Hyd yn oed os ydych yn adeiladu yn unol â’r hawliau datblygu a ganiateir, bydd rhaid ichi gydymffurfio o hyd â’r Rheoliadau Adeiladu. Er mwyn cadw at y gyfraith, efallai y byddwch yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth ddefnyddio pensaer neu dechnegydd pensaernïol ar gyfer hyn. Mae’n rhaid gwneud cynlluniau’n briodol, a’u cyflwyno i gorff rheoli adeiladu.

“Mewn gwirionedd, mae Rheoliadau Adeiladu yn gwneud eich bywyd yn llawer haws,” medda Nick. “Maen nhw’n rhestru popeth y mae angen i chi ei wybod. A bydd eich tîm rheoli adeiladu lleol yn hapus i’ch helpu.”

Dywed: “Trwy gydol y broses, tynnwch lawer o luniau. Mae hyn yn rhoi tystiolaeth i’r corff rheoli adeiladu eich bod yn gwneud pethau yn unol â’r cod, sy’n bwysig ar gyfer pethau fel inswleiddio a gosod cwrs atal lleithder. Bydd hefyd yn rhoi canllawiau clir ynghylch pryd y bydd angen iddo ddod allan i archwilio eich gwaith.”

Cael gafael ar eich deunyddiau eich hun

Hyd yn oed os nad ydych yn ymarferol iawn, gallwch ddechrau ar eich prosiect ac arbed rhywfaint o arian drwy gael gafael ar eich deunyddiau eich hun.

“Os byddwch yn agor cyfrif gyda Jewson neu gyflenwr adeiladu lleol, byddwch yn cael gostyngiad yn awtomatig,” medda Nick. “Cefais 10% oddi ar fy neunyddiau, ond mae’n bosibl cael mwy wrth fargeinio. Nid oes gennych ddim i’w golli drwy ddweud ‘Rwy’n mynd i wario £15,000 gyda chi, felly faint o ostyngiad gaf i?’

“Mae hyn”, ychwanega, “yn osgoi unrhyw ychwanegiad posibl y gallai adeiladwyr ei godi arnoch”.

Mynd amdani

Os ydych yn hyderus y byddwch yn gwneud gwaith da, mae’n bryd gwylio fideos DIY ar YouTube.

“’Dyw bricio ddim yn rhy anodd,” medda Nick. “Rwyf wedi gosod brics, drws a ffenestri, ac rwyf wedi adeiladu waliau styd.”

Fodd bynnag, ychwanega “Bu llawer o gamgymeriadau, ac mae llawer i’w ddysgu. Mae rendro yn grefft, er enghraifft. Mae yna bethau na fyddwch chi’n gallu eu gwneud eich hun”. 

Os ydych yn defnyddio adeiladwr, yna sicrhewch fod ganddo yr yswiriant cywir. Dylai pob crefftwr sy’n gweithio ar eich tŷ feddu ar y canlynol:

  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • Yswiriant atebolrwydd cyflogwr
  • Yswiriant gosodwr ar gyfer pob risg
  • Yswiriant indemniad proffesiynol

Mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch darparwr yswiriant adeiladau hefyd pan fyddwch yn gwneud gwaith ar eich eiddo. Os na wnewch hynny, mae’n annhebygol y bydd eich yswiriant yn cwmpasu unrhyw ddifrod neu golled a achosir o ganlyniad i’r gwaith. Ac oherwydd bod estyniad yn debygol o ychwanegu gwerth at yr eiddo, mae angen ichi ddiweddaru eich polisi yn unol â hynny.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig