Cytundeb gwerth £20 miliwn i gefnogi cartrefi fforddiadwy
Yn y canllaw hwn
Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi ymuno â Two Rivers Housing mewn cytundeb ariannu gwerth £20 miliwn.
Mae Two Rivers Housing yn gymdeithas dai gymunedol sy'n gwasanaethu Swydd Gaerloyw, Swydd Henffordd a'r cyffiniau. Gan reoli tua 4,600 o gartrefi, mae'n canolbwyntio ar ddarparu cartrefi cynnes, diogel a fforddiadwy, ac ar adeiladu tai fforddiadwy newydd lle mae eu hangen fwyaf.
Ymateb i'r galw am dai fforddiadwy
Bydd y bartneriaeth yn cefnogi gwaith Two Rivers Housing i ddarparu a chynnal cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy mewn ardal lle mae'r galw am dai fforddiadwy o ansawdd da yn parhau i fod yn uchel. Bydd hefyd yn helpu i ariannu gwaith trwsio a gwella ar ei stoc dai bresennol, gan gefnogi ymrwymiad y sefydliad i sicrhau bod cartrefi yn ddiogel ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys gwaith er mwyn helpu eiddo i gyrraedd lleiafswm sgôr C ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC), gan wella effeithlonrwydd ynni a helpu tenantiaid i fyw mewn cartrefi sy'n gynhesach ac yn fwy cynaliadwy.
Jan Quarrington, Uwch-reolwr Portffolio yn Cymdeithas Adeiladu
“Rydym yn falch o gefnogi Two Rivers Housing gyda chyllid a fydd yn helpu i ddarparu a chynnal cartrefi fforddiadwy sydd eu hangen yn ddirfawr ar draws Swydd Gaerloyw a Fforest y Ddena.
Mae'r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio gyda sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn eu cymunedau drwy helpu pobl i gael cartrefi cynnes, diogel a chynaliadwy.”
Carol Dover, Dirprwy Brif Weithredwr yn Two Rivers Housing
“Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein cartrefi a’n cymdogaethau, a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn ein helpu i gyflawni ein rhaglen cartrefi cynhesach. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein tenantiaid wedi gweld cynnydd sylweddol yn y biliau ynni ac yn wynebu pwysau ariannol pellach wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar gyllidebau teuluoedd.
“Gobeithio, drwy wneud cartrefi ein tenantiaid yn fwy effeithlon o ran ynni, y gallwn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau hwnnw a mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn ein cymunedau.”
“Hoffwn ddiolch i'r timau yn Centrus Financial a Trowers & Hamlins am eu cefnogaeth a'u harweiniad arbenigol drwy gydol y broses, yn ogystal â'n partneriaid ariannu newydd, Cymdeithas Adeiladu Principality, sydd wedi bod o gymorth ac yn gefnogol drwy'r amser.”
Fraser MacRae, Partner yn Clarke Willmott
“Mae Clarke Willmott yn falch o fod wedi cefnogi Cymdeithas Adeiladu Principality gyda'r cytundeb cyllido gwerth £20 miliwn hwn gyda Two Rivers Housing.
Mae ein perthynas hirsefydlog â Principality yn ein galluogi i weithio ar y cyd ac yn effeithiol, gan gefnogi trafodion sy'n helpu benthycwyr i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da. Rydym hefyd yn falch o chwarae rhan mewn prosiectau sy'n canolbwyntio'n glir ar gynaliadwyedd, gan gynnwys buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni.”
- Newyddion masnachol
- Astudiaeth achos