Skip to content

Ein tîm masnachol

Bydd ein tîm masnachol profiadol yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion a darparu ateb ariannu sydd wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi.

Cysylltu â ni

I drafod cyllid ar gyfer eich datblygiad diweddaraf
E-bost: commercialenquiries@principality.co.uk
Ffôn: 02920 773 538 

 

Neu cysylltwch ag un o'n rheolwyr perthynas yn uniongyrchol.

  • Commercial Headhshots

    Richard Wales

    Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol, Principality Masnachol

    Fel Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol, mae Richard yn arwain y tîm masnachol, gan ddod â digonedd o brofiad o’i rolau masnachol blaenorol ar draws Principality a sefydliadau ariannol eraill, gan gynnwys HSBC.

  • Commercial Headhshots

    Gareth Redding

    Uwch-reolwr Portffolio

    Wedi gweithio am dros 20 mlynedd yn y sector eiddo masnachol gyda banciau’r stryd fawr, mae Gareth yn gofalu am bortffolio mawr o gwsmeriaid yn y marchnadoedd buddsoddi a datblygu eiddo.

  • Commercial Headhshots

    Jan Quarrington

    Uwch-reolwr Portffolio – Tai Fforddiadwy

    Mae Jan yn frwd dros rôl cymdeithasau tai ac mae wedi ymrwymo i'w cefnogi i ddarparu mwy o dai fforddiadwy. Bu Jan yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol a bancio corfforaethol ers blynyddoedd lawer felly mae hi'n deall yr heriau y mae cymdeithasau'n eu hwynebu.

  • Commercial Headhshots

    Chad Griffiths

    Uwch-reolwr Portffolio

    Yn arbenigwr ar gyllid datblygu, mae llawer o bortffolio Chad ledled Cymru, de-orllewin a de-ddwyrain Lloegr wedi bod yn ariannu prosiectau preswyl adeiladau newydd.

  • Commercial Headhshots

    James Ford

    Uwch-reolwr Cysylltiadau

    Gan reoli portffolio o gleientiaid ar draws eiddo masnachol a datblygu preswyl, gall James ddarparu atebion ariannol wedi'u teilwra ar gyfer eich prosiect.

  • Commercial photoshoot 2025

    Maria Elias

    Rheolwr Cysylltiadau

    Gan reoli portffolio mawr o gwsmeriaid ar draws amrywiaeth o sectorau eiddo, mae Maria yn arbenigo mewn gweithredu cytundebau.

    
     
    
     
  • Commercial Headhshots

    Charlotte Vick

    Uwch-reolwr Cysylltiadau

    Wedi graddio mewn economeg a chyllid o Brifysgol Caerdydd, ymunodd Charlotte â Principality yn 2018. Mae Charlotte yn gofalu am bortffolio cynyddol o gleientiaid buddsoddi a datblygu.

  • Commercial Headhshots

    Sarah Lavender

    Uwch-reolwr Cysylltiadau (Tai Fforddiadwy)

    Gyda thros 15 mlynedd o brofiad yn y sector bancio masnachol a morgeisi, mae Sarah yn rheoli portffolio o gleientiaid yn y sector tai fforddiadwy.