Cyllid datblygu
Rydym yn darparu cyllid ar gyfer datblygiadau eiddo preswyl a masnachol, o leoliadau fforddiadwy yng nghanol dinasoedd i eco-bentrefi.
Yn eich helpu gyda'ch cyllid datblygu
Rydym yn rhoi benthyg i amrywiaeth o ddatblygwyr preswyl a masnachol gyda maint benthyciadau hyd at £10 miliwn ac uchafswm benthyciad hyd at 65%.
Mae ein cwsmeriaid yn ymddiried ynom oherwydd rydym yn cymryd yr amser i ddod i'w hadnabod nhw a'u busnes.
Gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy
I gefnogi datblygiadau preswyl, byddwn yn ariannu adeiladau gwyrddach drwy ein Cronfa Datblygu Gwyrdd gwerth £20 miliwn.
Nid oes rhaid i chi fod yn cynllunio adeilad cwbl garbon niwtral i fod yn gymwys ar gyfer ein Cronfa Datblygu Gwyrdd.
Byddwn yn cefnogi datblygwyr sy’n cymryd camau mwy cynaliadwy tuag at ddyfodol gwyrddach gyda rhai cymhellion gwyrdd deniadol.
Cefnogi datblygwyr bach a chanolig
Mae ein Cronfa Breswyl Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yng Nghymru gwerth £50 miliwn ar gael i ddatblygwyr preswyl llai a chanolig eu maint yng Nghymru. Lleiafswm maint y cynllun yw gwerth datblygu crynswth o £1.5 miliwn. Gallwn gynnig hyd at 75% o'r cymarebau rhwng benthyciad a chost.
Gall ein tîm datblygu preswyl arbenigol ddarparu telerau dangosol o gefnogaeth o fewn 7 diwrnod gwaith a llythyr cynnig o fewn 15 diwrnod gwaith.
Astudiaethau achos
Dyma rai o’r datblygiadau rydym wedi’u cefnogi.
-
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol
Helpu i chwyldroi byw’n gynaliadwy yng Nghymru.
1 mun
-
- Newyddion masnachol
- Astudiaeth achos
Cefnogi 110 o gartrefi newydd.
1 funud
Yn barod i drafod cyllid?
I drafod eich prosiect neu i gael ateb wedi'i deilwra, cysylltwch â'n tîm masnachol penodedig.