Eich Preifatrwydd
Gwybodaeth bwysig am breifatrwydd ar gyfer cwsmeriaid masnachol
Gofalu am eich gwybodaeth bersonol
Yma yng Nghymdeithas Adeiladu Principality, rydym yn ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a gwneud yn siŵr ein bod yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi i ni yn ddiogel.
Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn nodi sut y byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi. Darllenwch hwn yn ofalus.
Mae gwybodaeth bersonol yn golygu gwybodaeth sy'n berthnasol i chi y gellir ei defnyddio, ar ei phen ei hun neu gyda gwybodaeth arall sydd gennym, i'ch adnabod chi.
-
Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer cwsmeriaid masnachol
Dysgwch fwy am sut rydym yn defnyddio eich data personol a'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni.
-
Rheoli eich caniatadau
Gallwch reoli ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata ar unrhyw adeg, gallwch ddewis optio allan drwy anfon neges e-bost atom neu gallwch ddatdanysgrifo o e-byst marchnata drwy ddefnyddio'r dolenni datdanysgrifo yn ein ebyst marchnata
Angen rhagor o wybodaeth am yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer cwsmeriaid masnachol?
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am eich preifatrwydd neu ddiogelwch, cysylltwch â ni.
Cymdeithas Adeiladu Principality, Blwch Post 89, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA
Fel arall, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol drwy'r ffyrdd canlynol:
E-bost: DPO@principality.co.uk
Post: Swyddog Diogelu Data Principality, Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, The Friary, Caerdydd, CF10 3FA.