Skip to content

Eco-bentref ar gyrion Caerdydd

Chad Griffiths Senior Portfolio Manager at Principality Commercial pictured at the eco-village project

Yn yr astudiaeth achos hon

Sut y gwnaethom helpu

Rydym yn falch o fod wedi cefnogi datblygiad eco-bentref sy’n chwyldroi byw’n gynaliadwy yng Nghymru. Mae prosiect Great House Farm LiveEco, ar gyrion Caerdydd yn Sain Ffagan, yn ddatblygiad tai preswyl carbon isel i ddi-garbon, sy’n cynnwys 35 o gartrefi.

 

Dywedodd Daniel Ball, Cyfarwyddwr LiveEco: “Mae’n wych cael cydweithio â Principality ar y cynllun cynaliadwy arloesol hwn. Rydym wedi gweithio gyda phobl leol yn ystod y prosiect i adeiladu cartrefi ar gyfer pobl leol. Y canlyniad oedd eco-gartrefi hardd a phwrpasol, sydd â’r nod o gadw biliau’n isel a chreu cymuned newydd, hapus.”

“Mae’n wych cael cydweithio â Principality ar y cynllun cynaliadwy arloesol hwn.”

Daniel Ball, Cyfarwyddwr, LivEco

Mwy am y prosiect hwn

Mae'r cartrefi'n cynhyrchu ynni drwy baneli solar gyda batris mewnol er mwyn storio ynni gormodol ar gyfer rhyw dro yn hwyrach a gwres dan y llawr a ddarperir gan bympiau gwres ffynhonnell aer trydan. Maent hefyd yn cynnig pwyntiau gwefru ceir trydan a system hidlo aer i ailgylchu hen aer ag aer glân ffres.

 

Mae preswylwyr yn elwa o fyw'n gynaliadwy, ffordd iachach o fyw yn ogystal â biliau ynni isel, os o gwbl.

 

I ddysgu mwy am Great House Farm, ewch i LivEco.


 

 

Dywedodd Chad Griffiths, Uwch-reolwr Cysylltiadau Principality Masnachol: “Rydym yn hynod falch o fod yn cefnogi datblygiad byw'n gynaliadwy yng Nghymru, gan weld y datblygiad o’r dechrau i’r diwedd. Fel sefydliad sy’n eiddo i aelodau, ein diben yw cefnogi cymunedau yng Nghymru, ac mae’r datblygiad hwn yn gwneud hynny'n union. Helpu preswylwyr i fyw bywyd ecogyfeillgar, gyda chostau ynni isel, os o gwbl.”

Eisiau gwybod mwy?

Mae ein rheolwyr perthynas yma i'ch helpu.