Cytuno ar ailgyllido masnachol ar gyfer meithrinfa yn Hampshire
Yn y canllaw hwn
Wedi'i adeiladu a'i redeg yn wreiddiol fel tafarn, cafodd yr eiddo hwn ei drawsnewid yn feithrinfa ddydd gan Condo Properties Limited – rhan o'r Cavendish & Gloucester Group – ym mis Hydref 2025.
Yng nghanol Holybourne yn Alton, Dwyrain Hampshire, agorodd yr eiddo ym mis Rhagfyr 2025 ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan First Friends Day Nursery. Mae'r safle wedi'i orffen i safon ragorol ac mae'n cynnwys ardal chwarae fawr a lle parcio.
Mae First Friends yn weithredwr meithrinfeydd dydd hynod lwyddiannus; mae ganddo chwe meithrinfa ddydd yn yr ardal ac mae'n bwriadu ehangu yn y dyfodol.
Ailbwrpasu eiddo nas defnyddir ddigon
Cytunodd Cymdeithas Adeiladu Principality ar delerau ailgyllido masnachol gyda Condo Properties Limited yn dilyn cwblhau datblygiad yr eiddo.
Dywedodd James Murphy, Prif Swyddog Gweithredol, Cavendish and Gloucester Grp:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi trawsnewid hen dafarn yn feithrinfa ddydd o ansawdd uchel, gan sicrhau dyfodol hirdymor i'r eiddo a darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r gymuned leol.
Mae The Queens Head yn enghraifft wych o'n strategaeth o gaffael eiddo nas defnyddir ddigon, a'i drawsnewid yn fuddsoddiadau sy'n cynhyrchu incwm hirdymor. Rydym yn ddiolchgar i Gareth a'r tîm yn Principality am eu cefnogaeth barhaus.”
Dywedodd Gareth Redding, Uwch-reolwr Portffolio:
“Mae gan Principality a Cavendish & Gloucester gyderthynas gref ers blynyddoedd lawer, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi darparu cyllid buddsoddi masnachol i'r grŵp ar gyfer y fenter hon.
Mae'n wych gweithio gyda chyfarwyddwyr C&G, sy'n awyddus i adfywio eiddo gwag er mwyn ateb galw'r farchnad a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol. Rydym yn falch o chwarae ein rhan yn hyn.”
- Newyddion masnachol
- Cyllid buddsoddi