Skip to content

Datblygiad yn Kingston upon Thames yn mynd i'r farchnad

Principality yn cefnogi Quad Projects gyda’r datblygiad hwn ar lan yr afon yn Kingston upon Thames.
Delwedd allanol o ddatblygiad Quad Projects

Yn y canllaw hwn

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn falch o gefnogi Quad Projects gyda’r casgliad hwn o chwe thŷ teras a dau uned swyddfa mewn lleoliad ar lan y dŵr yn Kingston upon Thames.

Wedi'u dylunio o amgylch iardiau preifat sydd wedi'u suddo, mae llawr uchaf y cartrefi newydd yn cynnwys y prif ardaloedd byw, gan gynnwys yr ystafell fyw, yr ardal fwyta, y gegin ac un ystafell wely. Mae'r llawr isaf yn cynnwys ystafelloedd gwely ychwanegol.

Cyllid Datblygu Gwyrdd

Mae Principality yn darparu ychydig dros £6 miliwn i gefnogi prynu'r safle a datblygu'r eiddo. Ariannwyd y cynllun drwy Gronfa Datblygu Gwyrdd Principality Masnachol, sy'n cynnig cymhellion ariannol i ddatblygwyr tai sy'n creu datblygiadau tai sydd ag allyriadau carbon isel neu ddi-garbon.

Dywedodd Nuggy Lianos, Quad Projects:

“Roedd Quad wrth ei fodd bod Principality yn gallu cefnogi'r cynllun cyffrous hwn ar lan yr afon. Y telerau a'r cymhellion ffafriol a gynigir drwy'r Gronfa Datblygu Gwyrdd a'n denodd ni yn benodol. Mae Quad a Principality yn cydweithio i ddarparu datblygiadau cynaliadwy ac sy'n effeithlon o ran ynni ledled Llundain.”

Tystysgrif Perfformiad Ynni Gradd A

Mae cynaliadwyedd wedi'i integreiddio drwy'r dyluniad cyfan. Rhagwelir y bydd y cartrefi hyn, sy'n hollol drydanol, yn cyrraedd gradd A ar y Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). Mae gwres tanlawr wedi'i osod drwyddynt, ac mae strwythur y to wedi'i ddylunio er mwyn gallu gosod paneli solar yn y dyfodol.

Gellir ymweld â'r tŷ arddangos erbyn hyn.

Dywedodd Chad Griffiths, Uwch-reolwr Portffolio Principality Masnachol: 

“Rwy'n falch iawn o weld y datblygiad arloesol sydd bron wedi'i gwblhau. Wedi'u lleoli ar safle tir llwyd a danddefnyddir, mae gan y cartrefi hyn rinweddau carbon isel rhagorol. Mae'r unedau cyntaf wedi'u cwblhau ac mae'r unedau i gyd ar y farchnad erbyn hyn. Dylent fod yn llwyddiannus mewn ardal lle mae mawr alw am dai.”