Datblygiad tai moethus ym Mro Morgannwg
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Rydym yn falch o fod wedi ariannu datblygiad moethus Priory Gardens yn Ewenni gyda’r cwmni datblygu eiddo Westacres, cwmni cyswllt Morganstone Ltd.
“Mae’n gyffrous gweld faint o alw sydd am eiddo newydd yn y Fro, yn enwedig mewn lleoliad mor anhygoel ag Ewenni. Mae cefnogaeth Principality Masnachol wedi bod yn werthfawr wrth sicrhau bod datblygiad Priory Gardens yn cael ei gwblhau i’r safonau uchaf, ac edrychwn ymlaen at gydweithio eto yn y dyfodol.”
Mwy am y prosiect
Mae'r datblygiad yn eistedd ar dir a fu unwaith yn rhan o ystad Priordy Ewenni, yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif. Mae'n cynnwys pum tŷ newydd, pob un â gofod byw sylweddol a gardd. Mae Afon Ewenni yn rhedeg yn agos at y datblygiad, sydd ond ychydig filltiroedd o'r dref farchnad hanesyddol, y Bont-faen.
Mae'r tai i gyd yn rhai sengl ac ar gael gyda phedair neu bum ystafell wely, gan gynnwys ceginau cynllun agored, ystafelloedd bwyta a theulu. Mae'r holl eiddo wedi'u gwerthu erbyn hyn.
Dywedodd Stephen Ryan, Rheolwr Cysylltiadau Principality Masnachol: “Mae datblygiad Priory Gardens yn dod â phum cartref teuluol moethus i un o’r lleoliadau harddaf yn ne Cymru. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’r cleientiaid hyn ar eu datblygiad cyntaf o dan faner Westacres, ac mae’n galonogol gweld lefel y galw am yr hyn sy’n gynnyrch o’r safon uchaf mewn lleoliad gwych.”
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol