Skip to content

Cymdeithas Adeiladu Principality yn cynnal Brecwast Capital Economics

Brecwast Capital Economics

Yn yr erthygl hon

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Croesawodd Principality Masnachol aelodau a gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo i Gaerdydd ar gyfer brecwast blynyddol Capital Economics. Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â Capital Economics, yr arweinydd byd-eang mewn macroeconomeg a mewnwelediadau, a data sy'n gysylltiedig â buddsoddi.

Gan archwilio'r dirwedd economaidd bresennol yn y DU a chynnig cipolwg ar ddisgwyliadau ar gyfer Cyllideb yr Hydref, cysylltodd y digwyddiad hefyd weithwyr proffesiynol o fewn sector eiddo Cymru gyda chyfle gwerthfawr i rwydweithio.


Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty’r Parkgate, a chafodd ei gyflwyno gan Richard Wales, ac roedd yn cynnwys araith groeso gan Iain Mansfield, Prif Swyddog Gweithredol newydd Cymdeithas Adeiladu Principality.

Cyflwynodd Paul Dales, Prif Economegydd y DU yn Capital Economics, y brif araith a chyflwyniad, a roddodd fewnwelediad a dadansoddiad gwerthfawr i'r dirwedd economaidd yn y dyfodol.

 

Dywedodd Iain Mansfield, Prif Swyddog Gweithredol newydd Cymdeithas Adeiladu Principality:

“Roedd hi’n wych gweld cynifer o gleientiaid masnachol, partneriaid a gweithwyr proffesiynol eiddo yn y Brecwast Capital Economics blynyddol. Wrth i ni edrych ymlaen at Gyllideb yr Hydref a thu hwnt, mae deall yr amgylchedd macroeconomaidd yn hanfodol i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau gwybodus ar draws y diwydiant.

Mae Principality yn parhau i ganolbwyntio ar ehangu ein busnes Masnachol a chryfhau ein model cysylltiadau, wrth barhau i archwilio segmentau marchnad newydd a fydd yn ein helpu i ddiwallu anghenion twf yn y dyfodol.” 

 

Dywedodd Paul Dales, Prif Economegydd y DU yn Capital Economics:

“Mae'n wych bod yn ôl yng Nghaerdydd ar gyfer Cyfarfod Briffio Brecwast blynyddol Cymdeithas Adeiladu Principality/Capital Economics. Mae'n un o fy hoff ddigwyddiadau gan ei fod yn gyfle i ddod â gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo a chyllid ynghyd mewn un lle, ac rwyf hefyd yn mwynhau'r croeso cynnes Cymreig a roddir i bawb sy'n mynychu.

 

Roedd ansicrwydd byd-eang yn thema fawr yn nigwyddiad y llynedd. Ond eleni, yr ansicrwydd mwyaf i weithwyr proffesiynol eiddo a chyllid yn y DU yw'r un a achosir gan Gyllideb y DU sydd ar ddod. Mae'n edrych fel y bydd hon yn Gyllideb fawr o ran codiadau treth, a gallai fod yn seismig i'r farchnad eiddo.

Os daw eto haul ar fryn i weithwyr proffesiynol ym maes eiddo a chyllid, gallai'r Gyllideb gyfrannu at ostyngiad pellach mewn cyfraddau llog a chyfraddau morgeisi nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ragweld ar hyn o bryd. Yn fwy na hynny, mae marchnadoedd eiddo Cymru a'r De-orllewin wedi'u hinswleiddio'n well rhag y cynnydd posibl mewn trethi eiddo na rhai rhanbarthau eraill.”