Principality Masnachol yn addo £35M mewn cyllid ar gyfer menter tai fforddiadwy
Yn y canllaw hwn
Ynglŷn â'r prosiect hwn
Mae'r darparwr tai cymdeithasol arobryn, Tai ClwydAlyn, wedi cael £35M mewn cyllid gan Principality Masnachol er mwyn helpu'r sefydliad i ddatblygu ei raglen ddatblygu a darparu tai fforddiadwy sydd eu hangen yn ddirfawr ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae Tai ClwydAlyn, sydd wedi'i leoli yn Llanelwy, yn landlord cymdeithasol cofrestredig ac yn rheoli mwy na 6,800 o eiddo. Mae'r sefydliad yn cyflogi 800 o aelodau staff ac yn darparu gwasanaethau rheoli tai ledled Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys a Wrecsam.
Mae ClwydAlyn hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi pobl agored i niwed ledled Gogledd Cymru drwy lochesi rhag cam-drin domestig, gwasanaethau iechyd meddwl, llochesi digartref, a chartrefi gofal. Mae'r sefydliad yn cyflawni prosiectau allweddol, gan gynnwys datblygiad Well Street ym Mwcle, safle Cae Bothan yng Nghaergybi, a'r prosiect adfywio ym Mhentref Pwylaidd Penrhos yng Ngwynedd sy'n cynnwys 244 o gartrefi, pob un wedi'i gynllunio i ddarparu tai fforddiadwy hanfodol a chryfhau cymunedau lleol gyda 207 ychwanegol ar safleoedd eraill ledled y rhanbarth.
Sut y gwnaethom helpu
Bydd y £35M mewn cyllid a ddarparwyd gan Principality Masnachol yn helpu Tai ClwydAlyn i gyrraedd ei nod uchelgeisiol o ddarparu dros 1,100 o gartrefi newydd erbyn 2030.
Bydd y bartneriaeth newydd gyda Principality Masnachol yn cefnogi Tai ClwydAlyn i archwilio cyfleoedd adeiladu newydd ac yn helpu i ddiwallu'r galw cynyddol am gartrefi yn y rhanbarth.
Wrth wneud sylwadau ar y bartneriaeth â ClwydAlyn, dywedodd Jan Quarrington, Uwch-reolwr Portffolio, yn Principality Masnachol:
“Fel benthyciwr yng Nghymru, rydym wrth ein bodd yn cefnogi ClwydAlyn gyda chyllid i'w helpu i adeiladu mwy o gartrefi o ansawdd da sy'n effeithlon o ran ynni ledled Gogledd Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â sefydliad sydd â gwerthoedd cyffredin o helpu pobl i fyw mewn lle y gallant ei alw'n gartref a dangos ein hymrwymiad parhaus i'r sector tai fforddiadwy.”
Dywedodd Sandy Murray, Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau yn ClwydAlyn:
“Mae gan ClwydAlyn raglen ddatblygu uchelgeisiol dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r prinder tai a darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ledled Gogledd Cymru. Mae'r gwaith hwn yn rhan hanfodol o'n cenhadaeth i roi terfyn ar dlodi, ac rydym wrth ein bodd yn cyflwyno benthyciwr o Gymru i'n portffolio sy'n deall ein gweledigaeth a'n gwerthoedd. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i gyflawni ein cynlluniau a chreu cartrefi a chymunedau bywiog ledled y rhanbarth.”
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol