Skip to content

Canolfan fasnachol PropertyIndex yn ehangu ym Mae Caerdydd

PropertyIndex yn trawsnewid Willcox House ym Mae Caerdydd yn ganolfan fusnes ffyniannus arall.
Tu allan i Willcox House a'r ardal gyfagos

Yn y canllaw hwn

Mae cleient hirsefydlog, PropertyIndex, yn arbenigo mewn ailddatblygu adeiladau masnachol nas defnyddir ddigon, gan eu troi'n mannau masnachol a chreadigol fforddiadwy.

Mae'r math hwn o gyllid masnachol yn cyd-fynd yn dda ag ymrwymiad strategol Cymdeithas Adeiladu Principality i gefnogi cymunedau ffyniannus.

Cefnogi datblygiad busnes ym Mae Caerdydd

Yn dilyn prynu Global Link ym Mae Caerdydd yn 2022, trawsnewidiodd tîm PropertyIndex y swyddfeydd gwag mawr yn ganolfan fusnes ffyniannus. Erbyn hyn, mae’n gartref i 50 o fusnesau amrywiol. Ar y pryd, darparodd Principality £2.6 miliwn o arian buddsoddi, a gafodd ei ail-fuddsoddi yn y busnes i hwyluso twf pellach yn y portffolio.

Dywedodd Chris Spiteri, Cyfarwyddwr PropertyIndex:

“Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi bod yn rhan bwysig o'n taith, ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth a'r ymrwymiad y mae wedi'u dangos i PropertyIndex dros y blynyddoedd. Mae cryfder ein partneriaeth yn deillio o'i dealltwriaeth wirioneddol o'n busnes, ein huchelgeisiau, a'r farchnad eiddo lle rydym yn gweithredu. Mae ei dull cydweithredol wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i fanteisio ar gyfleoedd ar draws ein portffolio, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y rôl y mae'n parhau i'w chwarae yn ein llwyddiant.”

Ehangu ei bortffolio

Ym mis Hydref 2024, prynodd PropertyIndex Willcox House, uned swyddfa wag arall ym Mae Caerdydd, sydd gyferbyn â safle Global Link. Mae Willcox House – adeilad swyddfa mawr, tri llawr gyda lle parcio ar gyfer bron i 350 o geir – hefyd wedi cael ei adnewyddu a’i drawsnewid yn unedau a swyddfeydd llai.

Mae Willcox House wedi rhoi cyfle arall i PropertyIndex ateb y galw parhaus am unedau busnes bach sydd â chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol. Mae'r adeilad bron yn llawn erbyn hyn, gyda 75 o denantiaid. Yn debyg i Global Link, mae'r tenantiaid yn amrywiol iawn; ceir cymysgedd o swyddfeydd traddodiadol ar y lloriau uchaf, a busnesau gwasanaeth amrywiol ar y llawr gwaelod – gan gynnwys stiwdio ioga, stiwdio ar gyfer dosbarthiadau sbin, a chanolfan gofal dydd i gŵn.

Cytunodd Principality ar £5 miliwn ychwanegol i ail-ariannu'r prosiect yn gynharach eleni.

Dywedodd Chad Griffiths, Uwch-reolwr Portffolio Principality Masnachol:

“Rwyf wrth fy modd bod Principality Masnachol wedi gallu cefnogi ein cleientiaid hirdymor, PropertyIndex, gyda’u hehangiad parhaus. Mae llwyddiant y prosiect hwn yn dangos bod marchnad gref o hyd am ofod swyddfa hyblyg a fforddiadwy ar gyfer busnesau sy’n tyfu.”