Datblygiad Traders Yard yn ateb y galw am dai rhent yng Nghaerdydd
Yn y canllaw hwn
Mae'r datblygwr eiddo Urban Centric, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, bellach wedi cytuno ar gyllid gyda Chymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Traders Yard, datblygiad o 182 o fflatiau cyd-fyw.
Wedi'i leoli ar hyd Afon Taf, mae'r datblygiad yng nghalon prif ardal adfywio Caerdydd, ger Cei Caerdydd Canolog, Sgwâr Callaghan a gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
Datblygwr cyd-fyw profiadol
Gyda chaniatâd cynllunio llawn bellach ar waith ar gyfer y prosiect preswyl hwn, mae Principality wedi cytuno ar gyllid o ychydig yn llai na £28 miliwn i gefnogi datblygiad diweddaraf Urban Centric.
Gyda thros 20 mlynedd o brofiad o greu datblygiadau defnydd cymysg, mae Urban Centric yn credu mewn darparu cartrefi modern o ansawdd uchel i bobl sy'n chwilio am gartref cyfoes a chyfleus yng nghanol bywyd y ddinas.
Bydd y prosiect yn helpu i ddod â llety rhentu cystadleuol o ansawdd uchel – sydd ei angen yn ddirfawr – i'r farchnad leol, ac mae'n cyd-fynd ag ymrwymiad Principality i adeiladu cartrefi o fewn cymunedau lleol.
Chad Griffiths, Uwch-reolwr Portffolio, Principality Masnachol
“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r datblygwyr eiddo lleol, Urban Centric, gyda datblygiad o gartrefi rhentu sydd eu hangen yn ddirfawr yng nghanol ein prifddinas. Rydym wedi adnabod Urban Centric ers amser maith ac mae'r ffordd y maent wedi cyflawni nifer o brosiectau o faint tebyg wedi creu argraff arnom. Mae cefnogi prosiectau datblygu mwy o faint sy’n gofyn am gyllid, fel Traders Yard, yn cyd-fynd â’n strategaeth twf ar gyfer Principality Masnachol.”
Mannau a rennir yn gwella profiad y gymuned
Bydd Traders Yard yn cael ei rannu'n ddau floc – bloc llai o faint pum llawr gyda 40 o fflatiau, sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2027, a'r bloc arall – un 13 llawr gyda 142 o fflatiau – yn cael ei gwblhau yn 2028.
Bydd y datblygiad yn cynnwys sgwâr cymunedol, gofod llawr masnachol, balconïau/gerddi to ac ardal storio beiciau. Bydd y datblygiad hefyd yn darparu gofod cyfleusterau a rennir sylweddol, gan gynnwys campfa, ystafell fwyta, mannau cydweithio, lolfeydd, ystafelloedd gemau, ystafell sinema a mannau llesiant.
Andrew Woods, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Urban Centric
"Mae ein perthynas â Principality yn ymestyn dros bron i ddau ddegawd, ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda hi unwaith eto ar Traders Yard. Nid yn unig y mae Principality yn darparu gwasanaeth rhagorol, ond rydym hefyd yn mwynhau gweithio gyda'r tîm cyfan yn fawr. Mae ei ddealltwriaeth o'n busnes, ac o farchnad Caerdydd, wedi bod yn werthfawr wrth gychwyn y prosiect hwn.
Traders Yard yw ein cynllun cyd-fyw mwyaf uchelgeisiol hyd yma, ac mae cael benthyciwr lleol dibynadwy ochr yn ochr â ni yn rhoi hyder gwirioneddol i ni wrth i ni ddarparu cartrefi rhent o ansawdd uchel yng nghanol y ddinas."
- Newyddion masnachol
- Astudiaeth achos