Cefnogi adfywio adeilad rhestredig ar Ynys y Barri
Yn y canllaw hwn
Sut rydym wedi helpu
Darparodd Principality Commercial gyllid o £500,000 i gefnogi datblygwr lleol wrth ailddatblygu un o strwythurau rhestredig mwyaf adnabyddus Ynys y Barri.
Yn adnabyddus am adfywiad llwyddiannus Oyster Wharf yn Abertawe, gwelodd James Morse o Nell’s Point Limited botensial y strwythur unigryw hwn.
Mae'r adeilad hwn, sef hen floc toiledau sydd wedi'i restru fel adeilad Gradd II a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1923, yn nodwedd amlwg yn yr ardal ac wedi bod yn wag am gyfnod hir. Erbyn hyn, mae wedi cael ei drawsnewid yn ased masnachol hyfyw ac yn lleoliad lletygarwch newydd bywiog ar ran y Loungers Group.
Rhagor am y prosiect
Dywedodd Richard Wales, Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol yn Principality Masnachol:
“Dyma enghraifft wych o sut y gall buddsoddiad ystyriol adfywio adeilad cymunedol, gan gefnogi twf economaidd mewn cyrchfan annwyl gan lawer yng Nghymru ar yr un pryd. Mae trawsnewid y safle nodedig hwn nid yn unig yn gwarchod rhan bwysig o dreftadaeth Ynys y Barri, ond hefyd yn creu cyfleoedd newydd i fusnesau lleol, swyddi a thwristiaeth. Rydym yn falch o gefnogi prosiectau fel hyn sy'n helpu i adfywio cymunedau a chryfhau economïau lleol ledled Cymru.”
Dywedodd James Morse, Prif Swyddog Gweithredol Nell’s Point Limited:
“Mae'n newyddion gwych bod Morio Lounge wedi agor yn Nell’s Point Barry Ltd a gweld ymateb mor gadarnhaol gan drigolion y Barri. Mae Principality a Chyngor Bro Morgannwg wedi chwarae rhan allweddol wrth gychwyn y datblygiad hwn. Gwerthfawrogir yn fawr y ffaith bod Principality yn cefnogi datblygwyr lleol o Gymru, yn deall y weledigaeth ac yn cefnogi prosiectau o'r math hwn.”
Yn siarad ar ran Loungers, dywedodd Jess Nicholls, Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol:
“Dydw i erioed wedi agor 'Lounge' a gafodd groeso cadarnhaol cystal. Mae pobl y Barri wedi bod yn hynod groesawgar, ac rydym wedi mwynhau croesawu nhw a'u teuluoedd. Mae agor y lle hwn wedi cymryd amser hir, felly roeddem yn gwybod bod pobl y Barri yn edrych ymlaen at ein dyfodiad, ond rydym wedi cael ein syfrdanu'n llwyr gan y croeso cynnes a gafwyd gan y gymuned.”
- Newyddion masnachol
- Cyllid datblygu