Cefnogi adfywio adeilad rhestredig ar Ynys y Barri
Yn y canllaw hwn
Sut rydym wedi helpu
Mae Principality Masnachol wedi darparu cyllid gwerth £500,000 i gefnogi datblygwr lleol i ailddatblygu un o adeiladau rhestredig mwyaf amlwg Ynys y Barri.
Yn adnabyddus am lwyddo i adfywio Oyster Wharf yn Abertawe, gwelodd James Morse o Nextcolour Ltd. botensial yr adeilad unigryw hwn.
Mae'r hen floc toiledau Rhestredig Gradd II, a adeiladwyd ym 1923, adeilad nodedig ar Ynys y Barri, wedi sefyll yn wag am gryn amser. Mae'r tîm yn bwriadu cadw'r nodweddion treftadaeth, gan sicrhau bod statws Gradd II yr adeilad yn cael eu parchu a'i gymeriad gwreiddiol yn cael ei ddathlu yn rhan o'i ddiben newydd.
Rhagor am y prosiect
Mae'n ddarn pwysig o waith adnewyddu lleol a'r cynllun yw gweddnewid yr hen floc toiledau segur yn lleoliad lletygarwch bywiog newydd ac yn ased fasnachol hyfyw.
Bydd y safle, pan fydd wedi ei ailddatblygu yn lletya dwy uned fasnachol: bwyty, rhan o'r grŵp Loungers llwyddiannus, a siop goffi groesawgar newydd. Bydd y bwyty a'r siop goffi newydd yn creu swyddi lleol ac yn dod ag ymwelwyr i'r ardal.
Dywedodd Prif swyddog Gweithredol Nell’s Point Limited, James Morse:
"Ynghyd â chymorth gan Gyngor Bro Morgannwg, mae Principality wedi bod yn allweddol i helpu i adfer yr adeilad rhestredig Gradd II unigryw hwn. Edrychwn ymlaen at agor bwytai Nell's Point yn ddiweddarach yn yr haf".
Dywedodd Kirsty Morgan, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol gyda Principality Masnachol:
“Edrychwn ymlaen at weld yr adeilad ar ei newydd wedd a dathlu'r esiampl wych hon o gadwraeth treftadaeth a buddsoddiad masnachol cryf yn ne Cymru”.
- Newyddion masnachol
- Cyllid datblygu