Skip to content

Adeilad gwag yn Shoreditch wedi'i drawsnewid yn 14 o gartrefi newydd

Yn falch iawn o ddarparu £4 miliwn o gyllid i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Fanshaw House.
Llun allanol o Fanshaw House

Yn y canllaw hwn

Ar ôl gweithio gyda'r cleientiaid hyn ar brosiectau amrywiol am dros 10 mlynedd, rydym yn falch iawn o fod wedi darparu £4 miliwn o gyllid i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Fanshaw House yn Shoreditch, Llundain.

Partneriaeth ar ei gorau

Gan weithio gyda'i gilydd, dyma'r drydedd fenter ar y cyd y mae cyfarwyddwyr Executec Limited a Landview Properties Limited wedi gweithio arni gyda'r Tîm Masnachol yng Nghymdeithas Adeiladu Principality.

Dywedodd Gareth Redding, Uwch-reolwr Portffolio:

“Mae gan bob parti brofiad sylweddol ym myd eiddo ac maent wedi profi eu hunain yn weithredwyr o safon yn y maes hwn drwy nifer o brosiectau, gan gynnwys rhai gyda Principality Masnachol ac eraill y tu allan iddo.

Fel cwsmer hirsefydlog i'r Gymdeithas, rydym yn falch iawn o weld y prosiect diweddaraf hwn yn cael ei roi ar y farchnad ac rydym yn edrych ymlaen at greu mwy o gyfleoedd gyda'n cwsmeriaid yn y dyfodol.”

Amrywiaeth o opsiynau fflatiau i weddu i farchnad amrywiol

Mae Fanshaw House – a oedd yn feithrinfa a swyddfeydd yn flaenorol – wedi’i drawsnewid yn 14 o fflatiau sydd wedi’u cwblhau i safon ragorol, gan gynnwys stiwdios a fflatiau un a dwy ystafell wely, yn ogystal ag unedau deulawr.

Ychydig i'r gogledd o Liverpool Street, ar gyrion Shoreditch, mae'r lleoliad o'r radd flaenaf, yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol ac amrywiaeth o gyfleusterau. O ganlyniad, disgwylir galw mawr am y datblygiad newydd hwn.

Dywedodd Sean Meadows, Cyfarwyddwr Fanshaw House Developments Ltd:

“Mae'n bleser gweithio gyda Gareth a Principality; maent yn meddu ar feddylfryd masnachol, yn hawdd cysylltu â nhw ac yn barod bob amser i roi cefnogaeth i ni. Diolch iddynt o waelod calon. ”