Tai fforddiadwy yng Ngorllewin Caerdydd
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Rydym yn falch o fod wedi cydweithio â Tirion Homes, Llywodraeth Cymru a’r datblygwyr tai Lovell a Cadwyn i ddod â thai fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt i Orllewin Caerdydd. Saif The Mill ar hen safle diffaith, a fu'n segur ers dros 20 mlynedd.
Dywedodd David Ward, Prif Swyddog Gweithredol Tirion: “Mae The Mill yn brosiect adfywio mawr sy’n darparu dewis a fforddiadwyedd mawr eu hangen ym marchnad dai Caerdydd a bydd yn sicrhau buddion economaidd cynaliadwy i’r gymuned leol yn y degawdau nesaf.”
Mwy am y prosiect
O’r 800 o gartrefi a ddatblygwyd yn The Mill, mae hanner wedi’u neilltuo ar gyfer rhentu fforddiadwy ac yn eiddo i Tirion Homes, tra’n cael eu rheoli gan Gymdeithas Tai Cadwyn. Mae cyfleusterau cymunedol, parc ar lan yr afon a siop leol hefyd wedi'u lleoli ar y datblygiad.
Darparwyd he Mill gan Tirion Homes, cwmni tai “nid-er-elw” sydd â’r nod o ddarparu mwy o ddewisiadau fforddiadwy i bobl sy’n gweithio yng Nghymru drwy ddarparu cymdogaethau newydd o ansawdd uchel yn ein trefi a’n dinasoedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bartner allweddol wrth helpu i wireddu'r prosiect uchelgeisiol ar hen safle’r felin bapur wrth ymyl Afon Elái.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio: “Mae The Mill yn enghraifft o gydweithio gwirioneddol rhwng y llywodraeth ac adeiladwyr tai. Rwy’n falch iawn o weld pobl yn symud i mewn ac yn mwynhau eu cartrefi newydd. Gwnaethom ddarparu dros £6m o fenthyciadau i grŵp Tirion i gefnogi’r datblygiad hwn gan ein bod wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon. Mae’n wych gweld bod y datblygiad hwn yn cyflawni ar gyfer pobl yma yng Nghaerdydd.”
“Mae The Mill yn enghraifft o gydweithio gwirioneddol rhwng y llywodraeth ac adeiladwyr tai."
Rebecca Evans, Y Gweinidog Tai ac Adfywio
Y canlyniadau
Mae'r weledigaeth hirdymor o greu cymdogaeth fforddiadwy o ansawdd uchel bellach yn realiti i'r trigolion newydd.
Dywedodd Vanessa Oldham, un o drigolion The Mill: “Rydym wrth ein bodd gyda’n tŷ newydd yn The Mill, mae’n faint gwych, yn olau, yn agored ac eisoes yn teimlo fel cartref. Roedd yn wych symud i mewn i’n cartref newydd ar yr un pryd â’n cymdogion, mae’n gwneud dod i adnabod pawb gymaint yn haws ac yn adeiladu naws gymunedol hyfryd. Un o’r pethau a’n denodd ni i The Mill oedd y sicrwydd y mae Tirion Homes a Cadwyn yn ei roi i ni, sydd mor bwysig pan mae gennych chi deulu ifanc.”
- Newyddion masnachol
- Astudiaeth achos