Skip to content

Ariannu cartrefi arfordirol hardd yn Sir Benfro

Morgan Homes Saundersfoot Interior 1

Yn yr astudiaeth achos hon

Sut wnaethom ni helpu

Mae Morgan Homes yn gwmni adeiladu tai teuluol sydd wedi ei leoli yng Nghymru. Mae'r cwmni'n adnabyddus am ei ddatblygiad o gartrefi preswyl o ansawdd uchel, gan greu datblygiadau sy'n darparu ar gyfer ystod eang o brynwyr, o brynwyr tro cyntaf i'r rhai sy'n chwilio am gartrefi moethus.

Mae Morgan Homes yn canolbwyntio ar adeiladu yn rhai o’r lleoliadau mwyaf dymunol yng Nghymru, gyda llawer o’u datblygiadau yn cynnig dyluniadau modern a safonau uchel o adeiladu cynaliadwy.

Datblygiad preswyl diweddaraf Morgan Homes yw Nant y Dderwen yn Saundersfoot, Gorllewin Cymru. Bydd y datblygiad mawreddog hwn yn darparu 19 o gartrefi fforddiadwy a 35 o gartrefi marchnad agored ac mae'n daith gerdded fer o draethau godidog Sir Benfro.

Bydd y datblygiad yn helpu i ddarparu cyflenwad tai newydd y mae mawr ei angen yn yr ardal hon.

Mae Principality Masnachol wedi gweithio gyda Morgan Homes ar sawl datblygiad yn ystod ein perthynas chwe blynedd ac wedi ymrwymo £7.8m o gyllid datblygu.

"Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle i ddod â’n cartrefi nodedig i bentref arfordirol syfrdanol Saundersfoot, o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Bydd y datblygiad hwn yn darparu cartrefi o ansawdd uchel, steilus ac ecogyfeillgar, gan ymgorffori'r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau'r effeithlonrwydd ynni gorau posibl. Am y tro cyntaf, rydym yn cyflwyno datrysiadau storio batri i wella perfformiad ein systemau microgynhyrchu cartrefi, gan gynnig mwy o annibyniaeth ynni a chynaliadwyedd i berchnogion tai..

Yn ogystal â’r cartrefi marchnad agored hyn, rydym yn falch o barhau â’n partneriaeth ag ATEB i ddarparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn y lleoliad gwych hwn yn Sir Benfro. Mae ein perthynas hirsefydlog â thîm Principality Masnachol wedi bod yn allweddol wrth ddod â’r prosiect hwn yn fyw, ac edrychwn ymlaen at gydweithio ar lawer mwy o ddatblygiadau yn y dyfodol."

Kath Morgan, Cyfarwyddwr Gwerthiannau, Morgan Homes

Mwy am y prosiect hwn

Mae’r datblygiad hwn yn cynnig detholiad o gartrefi cyfoes o ansawdd uchel wedi’u dylunio i gydweddu ag amgylchoedd naturiol yr ardal. Mae wedi’i leoli o fewn cyrraedd i draethau hardd a llwybrau arfordirol Saundersfoot.

Mae Nant y Dderwen wedi'i gynllunio i apelio at amrywiaeth o brynwyr, o deuluoedd i bobl sydd wedi ymddeol, gyda chynlluniau eang ac amwynderau modern.  Fel gyda llawer o brosiectau Morgan Homes, canolbwyntir ar grefftwaith, cynaliadwyedd ac amgylchedd byw cyfforddus a chwaethus.

Mae gan bob un o'r eiddo gyfradd EPC A. Bydd y cartrefi’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio fframiau pren panel caeedig sy’n cael eu cynhyrchu oddi ar y safle gan gangen adeiladu Morgan Homes, Morgan Construction. Mae hyn yn sicrhau lefelau uchel o reolaeth ansawdd mewn amgylchedd ffatri, gan arwain at well effeithlonrwydd ynni a llai o wastraff o gymharu ag adeiladu ar y safle.


Dywedodd James Ford, Uwch-reolwr Portffolio Principality Masnachol

“Hwn fydd ein trydydd datblygiad gyda Morgan Homes a ategir gan berthynas waith gref. Mae’r diwydiant adeiladu tai yn ei gyfanrwydd wedi wynebu amodau masnachu economaidd anodd dros y 24 mis diwethaf ond mae’n dyst i’r tîm arwain yn Morgan Homes sut y maen wedi llywio’r busnes drwy’r cyfnod hwn.   Mae'n parhau i edrych ar ddulliau arloesol o gyflawni eu datblygiadau yn y ffordd fwyaf cynaliadwy heb gyfaddawdu ar ansawdd gan obeithio y gall chwarae rhan mewn cynorthwyo â’r cyflenwad o gartrefi newydd y mae mawr eu hangen yng Nghymru.”

Mae'r eiddo ar y farchnad ar hyn o bryd trwy asiant tai lleol, gan ddenu diddordeb mawr gan brynwyr rhanbarthol a'r rhai sydd am adleoli. Mae cartref arddangos hefyd ar agor i'w weld.

Gyda sawl rhagwerthiant eisoes wedi'u sicrhau, symudodd y perchnogion tai cyntaf i'w heiddo gorffenedig ddechrau mis Mawrth 2025.