Skip to content

Y tu hwnt i berchnogaeth tai: Twf cyd-fyw

Mae cyd-fyw yn gysyniad sy'n esblygu o fewn y dirwedd tai fodern
Dandi Brondesbury

Yn yr erthygl hon

Beth yw'r model cyd-fyw?

Mae cyd-fyw yn gysyniad deinamig sy'n esblygu o fewn y dirwedd tai fodern, gan ddod â llety preswyl preifat ynghyd â chyfres o gyfleusterau cymunedol a rennir fel campfa, gweithle a rennir, llyfrgell, sinema, golchdy a mwy, i gyd o dan yr un to.


Megis dechrau mae'r sector yn y DU, ond mae arwyddion ei fod ar fin tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, wedi'i ysgogi gan dueddiadau cryf o dwf poblogaeth, trefoli, cynnydd mewn gweithio hyblyg a dewisiadau ffordd o fyw eraill ymhlith cenedlaethau iau.” (Savills, 2025).

Mae'r elfennau mewnol yn adlewyrchu athroniaeth byw cymdeithasol, wedi'i chanolbwyntio ar fannau a chyfleusterau a rennir a mannau iechyd dan do ac yn yr awyr agored. Mae'r model wedi'i adeiladu o amgylch cymuned, fforddiadwyedd a chyfleustra, elfennau craidd y farchnad rhentu. Yn wahanol i fflatiau rhent traddodiadol, mae cyfleusterau cyd-fyw yn cynnig model prisio cynhwysfawr i breswylwyr, gan gyfuno rhent, biliau cyfleustodau ac ati mewn un taliad.


Er bod datblygiadau cyd-fyw yn aml yn edrych fel llawer o adeiladau preswyl trefol eraill, mae'r dyluniad mewnol yn aml wedi'i dargedu i ddenu gweithwyr contract, gweithwyr proffesiynol ifanc, a gweithwyr allweddol sy'n chwilio am fath gwahanol o lety, un sy'n annog cymuned a chymdeithasu.


Mae'r datblygiadau'n tueddu i gynnig stiwdios neu fflatiau un ystafell wely 200 – 320 troedfedd sgwâr i breswylwyr, gydag ystafelloedd ymolchi en-suite, a cheginau preifat, wedi'u hadeiladu i weithio ar gyfer bywyd modern. Yn aml, mae'r datblygiadau'n dod gyda mesurau diogelwch ychwanegol a staff ar y safle, gan gynnig amgylchedd mwy diogel i breswylwyr.

Dandi Brondesbury

Pam mae'n tyfu?

Mae'r sector rhentu preifat yn ei chael hi'n anodd bodloni galw'r farchnad. Mae heriau fforddiadwyedd hefyd yn wynebu'r rhai sy'n edrych i gael troed ar yr ysgol berchenogaeth tai am y tro cyntaf sy'n prisio llawer allan o'r farchnad.

Mae costau tai uchel, ynghyd â diffyg tai sydd ar gael i'w rhentu, yn golygu bod galw am opsiynau byw hyblyg, gan danio'r galw am atebion llety amgen. (Zoopla, 2025).

Gyda chostau byw yn codi yn y DU, ac yn benodol mewn dinasoedd mawr fel Llundain, Manceinion, Birmingham a Chaerdydd, mae rhentwyr yn chwilio am fwy am eu harian. Mae'r gallu i gael mynediad at gyfleusterau y byddai'n rhaid iddynt deithio iddynt fel arfer, ynghyd â chysur gwesty o'r radd flaenaf, yn gwneud datblygiadau cyd-fyw yn fwy dymunol i weithwyr proffesiynol ifanc modern.

Mae cyd-fyw yn sector sy'n tyfu ledled y DU, ond yn benodol yn y dinasoedd mwy, sy'n mynd i'r afael â'r prinder tai, a'r galw am dai a hyrwyddir gan y gymuned.

Dandi Brondesbury

Beth yw'r manteision?

Mae datblygiadau cyd-fyw yn cael eu hadeiladu gyda'r unig fwriad o rentu, yn hytrach na pherchnogaeth. Mae telerau prydles hyblyg yn golygu y gall preswylwyr mynd a dod o'u fflat/stiwdio heb orfod pacio eu heiddo os ydynt yn teithio i'r gwaith, yn ymweld â ffrindiau ac ati. Mae hyn yn fwy buddiol na gwesty lle byddai'n rhaid iddynt ymadael a dychwelyd eto, o bosibl i ystafell wahanol.

Mae cyd-fyw yn ychwanegiad gwerthfawr at Sector Rhentu Preifat y DU, gan ddarparu mwy o ddewis i breswylwyr (Savills, 2025). Nid mewn dinasoedd mwy yn unig y mae'r datblygiadau hyn yn gweithio, yn 2024, roedd cynlluniau cyd-fyw naill ai wedi'u cwblhau, yn cael eu hadeiladu neu gyda chaniatâd cynllunio wedi'i roi mewn dros 30 o awdurdodau lleol, ac mae llawer ohonynt o fewn pellter cymudo i ddinasoedd mwy.

Stori cleient: Dandi Living


Mae preswylwyr cyd-fyw Dandi yn amrywiol o ran oedran, rhwng 18 a 74 oed, gyda'r rhan fwyaf o'r preswylwyr rhwng 30 a 35 oed. Mae diwylliant y preswylfeydd yn cael ei hyrwyddo gan letygarwch, gan godi hwyliau, llesiant ac ymdeimlad o bositifrwydd y preswylwyr, gan greu lle gwirioneddol hamddenol a chroesawgar i fyw mewn dinasoedd prysur. Drwy greu amgylchedd sy'n canolbwyntio ar letygarwch, mae Ali yn credu bod Dandi yn meithrin ymgysylltiad cymdeithasol â'r gymuned ehangach "drwy gelf sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau diwylliannol ac ieithyddol".

Sut fydd y dyfodol?

Ar gyfartaledd, mae dros 865 o unedau cyd-fyw wedi cael eu datblygu bob blwyddyn ers 2016, ac yn seiliedig ar y nifer presennol o gynlluniau sydd wedi cael caniatâd, gallai hyn gynyddu i 3,430 y flwyddyn o 2024 i 2027 (Knight Frank, 2024).

Ar hyn o bryd mae Principality Masnachol yn ariannu nifer o ddatblygiadau cyd-fyw, sy'n cefnogi ein huchelgeisiau strategol o ddarparu mwy o gartrefi newydd.

Yn y pen draw, mae llawer o bobl yn dymuno bod yn berchen ar gartref. Fodd bynnag, mae cyd-fyw yn cynnig opsiwn arall i' bobl  sydd eisiau byw mewn canolfannau trefol gyda chyfleoedd cyflogaeth helaeth. Mae'r eiddo rhent o ansawdd uchel hyn yn ymddangos ledled y DU ac mae Principality Masnachol yn gweithio gyda datblygwyr i ddod â'r rhain i'r farchnad.

 

Trafodwch eich datblygiad nesaf gyda'r tim Masnachol