Principality yn cytuno ar ei chytundeb ariannu mwyaf gyda Luxgrove
Yn y canllaw hwn
Gyda gwerth bron i £42 miliwn, mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi cytuno ar ei chytundeb cyllido datblygu mwyaf hyd yma, gan gefnogi prosiect diweddaraf Luxgrove ar Broadway yn Ealing.
Mae'r cytundeb cyllido yn helpu i brynu a datblygu dau floc llety a fydd yn cynnwys dros 200 o unedau, mannau cymunedol mewnol ac allanol o ansawdd uchel, a chymysgedd o wasanaethau manwerthu a masnachol ar y llawr gwaelod.
Cyfrannu at anghenion y gynuned
Gan barchu golygfa bresennol y stryd, nod y datblygiad yw hyrwyddo cynaliadwyedd a byw'n iach, yn agos at barciau lleol a'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus presennol.
Wedi'u gosod fel tai amlfeddiannaeth (HMOs), bydd y blociau'n darparu llety fforddiadwy o ansawdd uchel, sydd ei angen yn ddirfawr, ar gyfer yr ardal leol.
Yn ogystal â myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ifanc, mae staff y GIG a gweithwyr allweddol eraill hefyd wedi’u nodi fel grwpiau allweddol ar gyfer y datblygiad, sy’n anelu at ddarparu cyfleoedd rhentu cost isel i’r rhai a allai fel arall ei chael hi’n anodd dod o hyd i lety fforddiadwy yn yr ardal.
Dywedodd William McKenna, Cyfarwyddwr Luxgrove Homes:
“Rydym wedi bod gyda Principality ers dros 10 mlynedd a bron i 15 o brosiectau, ac mae'r hyn a'n denodd ni ati ar y dechrau yn dal yn wir heddiw: dull benthyca sy'n seiliedig ar berthynas wirioneddol. Mae'n cymryd yr amser i'ch deall, i drafod cytundeb ac i ddeall eich gofynion a'r hyn sy'n eu hysgogi. Mae hynny'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o fenthycwyr. Mae Principality wedi bod yn bartner rhagorol i dyfu gydag ef, ac mae'r cynllun hwn yn enghraifft wych o hynny.”
Tyfu gyda'n cleientiaid
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Tîm Cyllid Masnachol Principality wedi cefnogi Luxgrove gyda chyllid ar amrywiaeth o brosiectau o werth cynyddol. Yn fwyaf diweddar yn 2025 gyda Barbara Speake Stage School a Nile Lodge y ddau hefyd yng ngorllewin Llundain.
Mae’r cytundeb benthyca masnachol diweddaraf hwn yn adlewyrchu ymrwymiad strategol Principality i ddyblu maint ei fusnes benthyca masnachol, ac i agor mwy o ddrysau yn y marchnadoedd morgeisi a benthyca masnachol fel ei gilydd.
Dywedodd James Ford, Uwch-reolwr Portffolio:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi helpu’r datblygiad hwn, a fydd yn darparu llety sydd ei angen yn ddirfawr yn yr ardal leol. Wrth i Luxgrove barhau i ehangu ei weithrediadau, rydym yn falch o dyfu ochr yn ochr â nhw, fel rhan o’n huchelgais ein hunain i ehangu ein busnes benthyca masnachol. Er bod y cynllun hwn yn dal yn y camau datblygu cynnar, rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu.”
Mae disgwyl i'r datblygiad gael ei gwblhau yn Haf 2028.
- Newyddion masnachol
- Cyllid datblygu