Skip to content

Principality Masnachol yn darparu cyllid gwerth £20M i Dai Gogledd Cymru ar gyfer tai fforddiadwy

Cefnogi datblygiad tai fforddiadwy a mynd i'r afael â'r galw cynyddol am dai ar draws y rhanbarth.
North Wales Housing Association

Yn y canllaw hwn

Sut y gwnaethom helpu

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cael £20M mewn cyllid gan Principality Masnachol i gefnogi datblygiad tai fforddiadwy ac ymdrin â'r galw cynyddol am dai ar draws y rhanbarth.

Prosiect allweddol a alluogwyd gan y cyllid yw datblygiad The Poppies yn Watts Dyle yn Wrecsam. Wedi'u bwriadu'n wreiddiol ar gyfer gwerthu ar y farchnad agored, mae pob un o'r 59 cartref ar y safle wedi'u caffael gan Tai Gogledd Cymru i'w cynnig fel tai rhent cymdeithasol a fforddiadwy diolch i gefnogaeth gyfunol gan gyllid Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru a Grant Tai Cymdeithasol gwerth £10M gan Gyngor Wrecsam.


Bydd Principality Masnachol yn parhau i gefnogi rhaglen datblygu tai uchelgeisiol Tai Gogledd Cymru, sy'n anelu at ddarparu 500 o gartrefi newydd sy'n effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy erbyn 2027 ar draws chwe sir Gogledd Cymru.

Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gryfhau ein perthynas â Chymdeithas Tai Gogledd Cymru. Fel busnes cydfuddiannol, mae cyfrannu at ddatblygu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen a gwneud mwy yn bosibl o fewn y cymunedau a wasanaethwn yn rhywbeth sy'n cyd-fynd â'n diben fel sefydliad. Edrychwn ymlaen at barhau â'r bartneriaeth hon a gweithio i gefnogi cymdeithas decach.

Sarah Lavender, Uwch-reolwr Cysylltiadau, yn Principality Masnachol.

Mwy am Dai Gogledd Cymru

Mae pencadlys Tai Gogledd Cymru (TGC) yng Nghyffordd Llandudno, yn cyflogi 170 aelod o staff ac mae ganddo bortffolio o 2,700 o eiddo ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam ar hyn o bryd. Mae'r sefydliad yn darparu gwasanaethau tai a chymorth i fwy na 3000 o bobl ac yn ddiweddar fe'i gosodwyd yn y 25% uchaf o gymdeithasau tai yng Nghymru gan ei denantiaid a'i drigolion am y gwasanaethau y mae'n eu darparu.

.

Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Principality Masnachol i ddarparu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen ledled Gogledd Cymru. Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i symud ymlaen â datblygiadau allweddol fel The Poppies yn Wrecsam, gan ein helpu i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran ynni i bobl leol ar adeg o angen tai gwirioneddol.

Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru