Trawsnewid Windsor Court yn llety i fyfyrwyr yng nghanol dinas Caerdydd
Yn y canllaw hwn
Mae Principality Masnachol wedi darparu cyllid i'r datblygwyr lleol TVE Group i gefnogi ailddatblygiad Windsor Court ar Heol y Frenhines, Caerdydd.
Caiff y lloriau swyddfa gwag eu hailddefnyddio fel 'The Crest on Windsor' – llety myfyrwyr a adeiladwyd yn bwrpasol yng nghanol y ddinas.
Mae'r ddinas, sy'n gartref i Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn wynebu prinder llety i fyfyrwyr. Mae datblygiadau fel y rhain yn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu'r cyflenwad yng nghanol y ddinas.
Mae The Crest on Windsor yn darparu 96 o welyau i fyfyrwyr, gyda'r potensial i gynyddu'r nifer i 113. Yn ogystal ag ystafelloedd gwely i fyfyrwyr, mae'r datblygiad yn cynnig amrywiaeth ardderchog o leoedd cymunedol ar y safle sydd wedi'u cynllunio i wella'r profiad byw. Mae'r rhain yn cynnwys mannau cymdeithasu a lolfeydd, campfa, ystafell gemau, cyfleusterau golchi dillad a lle i storio beiciau.
Creu posibiliadau gyda datblygwyr lleol
Mae'r datblygiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Principality Masnachol i gefnogi buddsoddiad mewn eiddo ac adfywio strydoedd mawr yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni gan dîm lleol profiadol sy'n cynnwys TVE Group, Intelle Construction ac Expedite, gan ddod ag arbenigedd cryf ym meysydd datblygu, contractio a chyflawni prosiectau at ei gilydd.
Wrth sôn am y datblygiad, dywedodd Sam Rutley, Prif Weithredwr, TVE Group:
“Rwy'n falch o fod yn cyflawni'r gwaith ailddatblygu hwn ochr yn ochr â fy nhad, John, a chwmnïau lleol profiadol.
Gyda chyllid gan Principality, bydd datblygiad The Crest on Windsor yn trawsnewid swyddfeydd gwag yng nghanol y ddinas yn gymuned o ansawdd uchel i fyfyrwyr, wedi'i hadeiladu at y diben hwnnw. Edrychwn ymlaen at gyflwyno'r cynllun uchelgeisiol hwn i'r farchnad yn Haf 2027."
Dywedodd James Ford, Uwch-reolwr Portffolio Principality Masnachol:
“Rydym yn falch iawn o barhau i gefnogi cwsmer hirsefydlog, Sam Rutley, y mae'r Gymdeithas wedi meithrin perthynas gref a dibynadwy ag ef dros nifer o flynyddoedd.
Rydym hefyd yn falch o groesawu Nigel a Neil; mae eu cyfoeth o arbenigedd ym maes adeiladu a’u hanes trawiadol o gyflawni datblygiadau nodedig ledled Cymru yn cryfhau’r tîm ymhellach. Edrychwn ymlaen at gefnogi eu llwyddiant parhaus wrth iddynt wireddu’r prosiect cyffrous hwn.”
- Newyddion masnachol
- Cyllid buddsoddi