Skip to content

Principality yn dathlu pumed datblygiad gyda'i chleient hirsefydlog Claremont Finesse

claremont finesse

Yn yr astudiaeth achos hon

Sut y gwnaethom helpu

Mae Principality Masnachol wedi cydweithio ar bumed datblygiad gyda'i gleient hirsefydllog Claremont Finesse.  Mae Orchard Walls, wedi'i leoli ar gyrion Bryniau Surrey hardd ym mhentref Effingham, yn ddatblygiad soffistigedig â giatiau o wyth cartref modern.

 

Dywedodd Tom Grimshaw - Cyfarwyddwr, Claremont Finesse Ltd “Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chymdeithas Adeiladu Principality ers dros 10 mlynedd.  Gyda’i chymorth, mae Claremont Finesse yn parhau i fod yn un o ddatblygwyr eiddo mwyaf mawreddog Surrey. Edrychwn ymlaen at barhau â’n perthynas waith â’r Gymdeithas am flynyddoedd lawer i ddod.”

Mwy am y prosiect hwn

Mae'r cartrefi yn Orchard Walls yn amrywio o dai sengl pedair ystafell wely i dai pâr dwy ystafell wely, gyda'r rhan fwyaf yn cynnwys garejys. Wedi'u lleoli mewn tiroedd wedi'u tirlunio, mae'r holl gartrefi wedi'u gorffen i'r safonau uchaf a chanddynt ardd breifat.


Mae Principality wedi darparu cyllid o £3.265m i gefnogi'r prosiect datblygu hwn.


Dywedodd Chad Griffiths, Uwch-reolwr Portffolio yn Principality Masnachol: 
"Mae Principality wedi bod wrth ei bodd yn cefnogi'r datblygiad hwn ar gyfer Claremont Finesse ac ar ôl cwblhau'r gwaith yn gynharach yr haf hwn, mae wedi bod yn wych gweld y lefel dda o alw am y cartrefi hyn o safon. Fel arfer, mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Claremont Finesse a'i dîm, yr ydym yn ei gefnogi ar sawl datblygiad pellach yn Surrey. Edrychwn ymlaen at weld y datblygiadau hyn yn symud ymlaen dros y misoedd nesaf."