Cefnogi trawsnewid ffatri seidr yn Nyfnaint
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Mae’n bleser gennym gefnogi ATA Estates gyda’r ailddatblygiad hwn o ysguboriau adfeiliedig yn gartrefi o ansawdd uchel yng nghefn gwlad de Dyfnaint.
Yn safle tir llwyd, mae’r hen ffatri seidr hon wedi’i thrawsnewid i greu datblygiad Apple Orchard, casgliad o drawsnewidiadau ysgubor 2, 3 a 4 ystafell wely. Gan weithio gydag ATA Estates ers 2017, dyma’r trydydd datblygiad rydym wedi’i gefnogi, gan ddarparu £2.2 miliwn mewn cyllid benthyciad ar gyfer y prosiect hwn.
Dywedodd Tom Pratt o ATA Estates “Bu'n bleser gweithio gyda Principality Masnachol ar ein cynllun yn Apple Orchard, Staverton. Mae’r tîm cyfan wedi profi ei fod yn ymatebol ac yn gefnogol i’n hanghenion busnes ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio ar y prosiect nesaf”.
Mwy am y prosiect
Mae gan ATA hanes da o gymryd adeiladau hŷn segur a'u troi'n gartrefi rhagorol ledled de-orllewin Lloegr. Nod y datblygiad hwn yw darparu 11 o gartrefi newydd i'r farchnad leol yn agos at bentref Staverton ger Totnes.
Nod y datblygiad yw ategu ei leoliad gwledig. Mae rheolaeth ar wrychoedd, blychau nythu, blychau ystlumod a hafannau i ddraenogod ac amffibiaid sydd wedi hen ennill eu plwyf yn ceisio gwella ecoleg y safle. Mae anghenion trigolion yr 21ain ganrif hefyd wedi'u hystyried gyda nodweddion ynni cynnal a chadw isel a mynediad at dechnoleg ffibr.
Dywedodd Chad Griffiths, Uwch-reolwr Portffolio Principality Masnachol “Rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r prosiect hwn sy’n crisialu ymrwymiad Principality i ddarparu mwy o gartrefi i gymunedau lleol a mwy o bobl yn byw mewn cartref y maent yn ei ddymuno.”
Roedd yr eiddo cyntaf ar gael yn 2024. Mae'r rhan fwyaf o'r cartrefi wedi'u gwerthu gyda rhai ar gael i'w prynu o hyd.
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol