Cefnogi datblygwyr newydd â'u gweledigaeth
Yn yr astudiaeth achos hon
Sut y gwnaethom helpu
Rydym yn falch o gefnogi datblygwyr newydd sy'n dod ag egni ac uchelgais wahanol i'r farchnad dai. Daeth Drewett Developments Ltd., dan arweiniad Will Drewett, atom fel cleient newydd, a dyma'r datblygiad cyntaf o dan yr enw Drewett Developments.
Mae'r prosiect, Wick Bridge Barns yn Bremhill, Calne, yn cynnwys trosi dau ysgubor draddodiadol yn gartrefi pum ystafell wely eang, cyfoes sy'n cynnig llawer o olau a digon o le byw. Daeth Drewett Developments atom drwy ein llinell ymholiadau, a gwnaethom greu cydberthynas waith gref yn gyflym. Mae ein dull ymatebol, ein proses o wneud penderfyniadau cyflym a'n gallu i ryddhau arian yn effeithlon yn rhinweddau a helpodd i gadw'r prosiect yn symud ymlaen yn ddidrafferth.
Roedd y datblygiad yn ymgorffori system wresogi ffynhonnell aer, gan gyd-fynd â'n blaenoriaeth ar gyfer 2025 i gefnogi cartrefi mwy cynaliadwy. Mae'r cydweithrediad hwn yn enghraifft o'n hymrwymiad i weithio'n effeithlon i wasanaethu cwsmeriaid yn well ac ariannu datblygiadau o ansawdd uchel sy'n cyfrannu at ein dyhead o ariannu datblygiadau o ansawdd uchel ledled y DU.
“Bu'n bleser gweithio gyda Principality Masnachol. Gwnaethon nhw yr hyn y dywedon nhw y bydden nhw'n ei wneud, o'r cychwyn cyntaf i'r diwedd. Wrth gyflawni prosiect, os yw pawb yn gwneud hynny, yna bydd yn mynd yn ddidrafferth, a dyna a ddigwyddodd. Mae'r cyd-gysylltu â Kirsty a'i chydweithwyr wedi bod yn brydlon ac yn gryno. Ni allaf ofyn am ragor gan fenthyciwr. Y cyfan sydd ei angen arnom nawr yw safle arall!”
Will Drewett o Drewett Developments Ltd
Mwy am y prosiect hwn
Mae Wick Bridge Barns wedi'i leoli ym mhentref prydferth Bremhill, ychydig y tu allan i Calne yn Wiltshire. Mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol rhwng Calne a Chippenham. Mae'r datblygiad yn cynnwys dau gartref pum ystafell wely wedi'u haddasu sy'n cadw cymeriad yr ysguboriau gwreiddiol, gan gynnwys trawstiau agored a naws wledig, wrth integreiddio cysuron modern a nodweddion cynaliadwy.
Mae'r cartrefi wedi'u cwblhau'n ddiweddar ac maent yn gwella'r stoc tai lleol, gan ategu'r clwstwr o gartrefi cyfagos yn y lleoliad lled-wledig delfrydol hwn.
“Bu'n bleser cefnogi Drewett Developments ar y prosiect hwn, sydd wir wedi amlygu ein hymrwymiad i greu cydberthnasau gwaith cryf gyda'n cwsmeriaid. Mae'r prosiect hwn yn nodi dechrau cyffrous i Drewett Developments Ltd, ac rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan wrth wireddu ei weledigaeth.”
Kirsty Morgan, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol yn Principality Masnachol.
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol