Trawsnewid ysgol berfformio yn gartrefi rhagorol yn Acton
Yn yr astudiaeth achos hwn
Sut y gwnaethom helpu
Mae Principality Masnachol wedi cefnogi Luxgrove ers 2016, gan helpu Luxgrove ar amrywiaeth o brosiectau datblygu yn amrywio o drawsnewidiadau i ddatblygiadau newydd o'r gwaelod i fyny.
Mae'r Gymdeithas wedi parhau â'r cymorth hwn ar ddatblygiad diweddaraf Luxgrove, Artscene, drwy gyfleuster datblygu o £12.9 miliwn. Bydd y prosiect yn darparu 37 o gartrefi newydd gyda chymysgedd o fflatiau un, dwy a thair ystafell wely yn Acton, Gorllewin Llundain.
Dywedodd William McKenna, Cyd-sylfaenydd, Luxgrove Homes:
“Wrth weld cartrefi masgynnyrch diddychymyg yn dod i'r amlwg fwyfwy ar draws y dirwedd, roedd ein sylfaenwyr yn dychmygu cwmni a fyddai'n dod â chalon yn ôl i adeiladu cartrefi. Heddiw mae ein tîm o benseiri, dylunwyr a chrefftwyr yn gweithio'n synergyddol i ddylunio mannau byw mor unigryw â'r bobl ynddynt. Rydym yn arllwys ein hangerdd i bob cartref, gan weld pob prosiect fel stori newydd i'w hadrodd.”
Mwy am y prosiect hwn
Mae Luxgrove wedi sefydlu enw brand cryf wrth ddarparu cartrefi rhagorol o safon uchel a dyluniad unigryw.
Artscene yw trawsnewidiad hen Ysgol Berfformio Barbara Speake. Mae'r datblygiad bellach yn cynnig y gorau o fyw yn Llundain. Lleoliad gwych, ymarferoldeb o'r radd flaenaf, dyluniad cyfoes a lle yn yr awyr agored. Nod y datblygiad yw creu cartrefi effeithlon o ran ynni carbon isel gyda sgôr EPC B o leiaf.
Bydd datblygiad Artscene yn cael ei gwblhau yn Hydref 2025
Dywedodd James Ford, Uwch-reolwr Cysylltiadau Principality Masnachol:
“Cefais y fraint o weithio ochr yn ochr â Luxgrove ers y dechrau yn 2016. Er bod maint y prosiectau wedi tyfu dros y blynyddoedd, mae'r awydd i ddarparu cynnyrch o'r radd flaenaf yn parhau i fod wrth wraidd yr holl gynlluniau y mae Luxgrove yn eu hadeiladu. Mae'r tîm yn fanwl iawn o ran y dull o ddylunio a gweithredu gorffeniad pwrpasol i bob cartref. Edrychaf ymlaen at gefnogi Luxgrove wrth iddo barhau i ehangu ei weithrediadau.”
- Astudiaeth achos
- Newyddion masnachol