Skip to content
Log in

Sgamiau gwyliau

Beth yw sgam gwyliau? 


Sgam gwyliau yw pan fydd troseddwyr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i dwyllo pobl i drosglwyddo arian a gwybodaeth. Er enghraifft, catalog neu restr ffug ar gyfer carafán, fila i’w rhentu, neu lety gwyliau. Weithiau efallai na fyddwch yn sylweddoli eich bod wedi cael eich twyllo nes i chi gyrraedd eich cyrchfan gwyliau. 


Sut i adnabod sgam gwyliau: 

  • Rydych yn cael cynnig gwyliau am bris gostyngol neu’n rhatach o lawer. Mae'r cynnig yn swnio'n rhy dda i fod yn wir.
  • Gofynnir i chi dalu drwy drosglwyddiad banc ac nid y dewis talu diogel a argymhellir gan fanwerthwyr ag enw da.
  • Dim ond dyddiau neu wythnosau yn ôl y lansiwyd y wefan neu'r cwmni sy’n gwerthu’r gwyliau i chi. 
  • Nid yw'r cwmni'n aelod o ABTA nac ATOL.
  • Ni allwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ymlaen llaw am y cwmni rydych chi'n trefnu drwyddo.
  • Nid yw telerau ac amodau eich pryniant yn glir nac yn cael eu darparu cyn i chi drefnu gwyliau.

Mathau o sgamiau gwyliau

Os ydych chi'n trefnu ac yn talu am wyliau mewn carafán neu gartref symudol ond yn canfod nad yw'n bodoli neu os nad yw'n cyrraedd ar ôl i chi dalu, rydych chi wedi cael eich twyllo. 


Yn aml hysbysebir y sgamiau hyn ar safleoedd arwerthiant neu'r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnig bargen wych, er nad ydynt yn bodoli. Gofynnir am daliadau fel arfer trwy drosglwyddiad banc yn hytrach na defnyddio y dull talu diogel a argymhellir. 


Mae troseddwyr hefyd yn gofyn i bobl dalu gan ddefnyddio anfonebau ffug i'w twyllo i feddwl bod y taliad yn un dilys. Yn dilyn hynny, nid yw’r troseddwyr yn anfon anfoneb. Yna mae rhywun yn cysylltu â'r prynwr gan esgus ei fod yn gynrychiolydd darparwr gwasanaeth talu ac mae'r prynwr yn cael cyfeirnod a rhif cyfrif banc er mwyn gwneud taliad. 

Yn y pen draw, nid yw'r prynwr yn derbyn ei nwyddau gan fod taliad wedi'i wneud i gyfrif a reolir gan droseddwr. 


Ceir rhagor o wybodaeth am sgamiau prynu trwy ymweld â Take Five to Stop Fraud. Sylwch nad yw Principality yn gyfrifol am y cynnwys ar safleoedd allanol eraill.

Pan fydd gweithredwyr hedfan neu gwmnïau teithio yn canslo eich hediadau neu’ch gwyliau gall hyn beri straen, hyd yn oed yn fwy felly pan fyddwch chi'n ceisio cael ad-daliad. Mae troseddwyr yn defnyddio'r cyfleoedd hyn i dwyllo pobl mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy negeseuon e-bost gwe-rwydo, galwadau ffug-negeseuon neu bostiadau neu hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol. 


Negeseuon e-bost gwe-rwydo 

Mae troseddwyr yn anfon negeseuon e-bost gwe-rwydo yn cynghori pobl ynghylch sut i hawlio ad-daliadau gyda dolenni sy'n arwain at wefannau ffug a ddefnyddir i ddwyn gwybodaeth bersonol ac ariannol neu i heintio'ch dyfais gyda maleiswedd. Efallai y bydd y negeseuon e-bost hyn yn ymddangos fel pe baen nhw’n dod o gwmnïau hedfan, banciau, darparwyr teithiau neu sefydliadau dibynadwy eraill gan ddefnyddio brandio swyddogol i'ch argyhoeddi eu bod yn ddilys. 


Galwadau ffug-negeseuon 

Mae troseddwyr yn eich ffonio gan esgus bod yn gynrychiolwyr neu'n 'asiantau ad-dalu' sefydliadau yr effeithir arnynt neu eich banc yn honni y gall eich helpu i gael ad-daliad ar unwaith os byddwch yn rhoi eich manylion banc. Efallai y gofynnir i chi dalu ffi ymlaen llaw fel taliad am ddelio â hawliadau ad-daliad. Ar ôl ichi rannu eich manylion banc gyda'r troseddwr, ni fyddwch yn cael eich ad-daliad ac mae’r troseddwr yn gallu cael gafael ar eich arian. 


Y Cyfryngau Cymdeithasol  

Gall troseddwyr greu cyfrifon ffug ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n efelychu sefydliadau go iawn, a honni y gallant eich cynorthwyo gydag ad-daliadau/hawliadau. Mae'r dolenni yn y postiadau yn eich dargyfeirio i wefannau ffug sy'n gofyn am eich gwybodaeth bersonol ac ariannol er mwyn symud ymlaen. Fodd bynnag, ar ôl i’ch manylion gael eu cofnodi, ni fyddwch yn cael unrhyw gymorth ac felly rydych chi wedi dioddef sgam. 

Sicrhewch fod y gwyliau yr ydych yn bwriadu eu trefnu yn ddilys cyn i chi drefnu, trwy wneud ychydig o waith ymchwil i'r cwmni. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod troseddwyr yn aml yn sefydlu gwefannau ffug sy'n cynnig teithiau rhad iawn er mwyn eu defnyddio i gael eich arian a'ch gwybodaeth. Gall gwefannau edrych fel rhai sefydliadau dilys ond gall newidiadau cynnil yn yr URL ddangos eu bod yn dwyllodrus. Efallai y cewch eich cyfeirio oddi wrth sianeli talu diogel i 'osgoi colli archeb' i dalu trwy drosglwyddiad banc neu drwy dudalennau talu ffug. Gall y tocynnau a hysbysebir fod yn ffug neu’n rhai nad ydynt yn bodoli. 


Efallai y byddwch hefyd yn cael negeseuon e-bost gwe-rwydo sy'n hysbysebu cynigion neu brisiau "rhy dda i fod yn wir" ar gyfer gwyliau pecyn neu hediadau. Pan fyddwch yn clicio ar y ddolen yn y neges e-bost, cewch eich cyfeirio at wefan ffug a gynlluniwyd i gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol ac ariannol. 


Negeseuon e-bost

Defnyddiwch gyfrinair cryf bob amser ar gyfer eich negeseuon e-bost, sy'n wahanol i rai eraill a ddefnyddiwch i fewngofnodi. Gall troseddwyr hacio eich negeseuon e-bost ac yna cael mynediad at wybodaeth am wyliau. 


Hediadau a phecynnau 

Os ydych chi'n trefnu gwyliau pecyn trwy gwmni, gallwch wirio a yw’n aelod o ABTA trwy chwilio am y logo ar eu gwefan. Hefyd, dylech fynd i wefan ABTA a gwirio i weld a yw’n aelod. Os yw'r pecyn hefyd yn cynnwys hediadau, gallwch fynd i ATOL neu’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA)  i wirio a ydych wedi eich diogelu, ac a yw'r cwmni hwnnw'n ddeiliad ATOL. Sylwch nad yw Principality yn gyfrifol am y cynnwys ar safleoedd allanol eraill.


Trefnu llety 

Gall troseddwyr ddylunio gwefannau sy'n ymddangos yn broffesiynol ac yn argyhoeddiadol, gan ddefnyddio lluniau o filas moethus a fflatiau nad ydynt yn bodoli i'ch argyhoeddi eu bod yn ddibynadwy a dilys. Mae'r rhain yn cael eu cynnig i'w rhentu, yn aml am brisiau gostyngol ac mae gofyn i chi dalu blaendal na chaiff ei ddychwelyd. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich ymchwil eich hun cyn trefnu. Gallwch wirio gwefan swyddfa'r cwmni trwy chwilio amdanynt ar chwilotwr dibynadwy fel Google. Gallwch hefyd ddarllen adborth o ffynonellau rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw, fel gwefannau defnyddwyr. 


Sgamiau cyfran gyfnodol 

Mae troseddwyr yn cynnig gwyliau am ddim i ddenu pobl i gofrestru ar gyfer eu sgamiau cyfran gyfnodol. Gyda'r sgam hon, mae troseddwyr yn eich annog i fynd i seminarau lle mae pwysau arnoch i ymrwymo i gynllun cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau a gofynnir i chi lofnodi contract. Mae'r troseddwyr yn cynnig prisiau sy’n rhy dda i fod yn wir a manteision amrywiol cyn dechrau rhoi pwysau cynyddol arnoch i lofnodi. Yn ddiweddarach maen nhw'n codi ffioedd afresymol, ac mae'n anodd dianc rhag y cynlluniau. 


Cyn i chi fynd dramor 

  • sicrhewch fod eich cwmni cerdyn â’ch manylion cyswllt diweddaraf, gan gynnwys rhif ffôn symudol. Os yw eich cwmni cerdyn yn canfod patrymau o wariant anarferol ar eich cerdyn, efallai y byddant yn cysylltu â chi i wirio bod y trafodiadau yn ddilys. Efallai y byddant hefyd yn atal eich cerdyn rhag cael ei ddefnyddio tan iddynt lwyddo i gysylltu â chi 
  • sicrhewch fod gennych rif ffôn 24 awr eich cwmni cerdyn a'ch rhif polisi pan fyddwch yn teithio 
  • sicrhewch eich bod yn ymddiried mewn gwerthwr neu wefan cyn datgelu manylion eich cerdyn. Gallwch wneud hyn trwy wirio bod clo clap wedi ei gloi neu symbol allwedd heb ei dorri i’w gweld yn eich porwr a bod cyfeiriad y wefan yn dechrau gyda 'http'
  • ewch â dim ond y cardiau rydych chi'n bwriadu eu defnyddio gyda chi; gadewch y rhai eraill mewn lle diogel gartref 


Pan fyddwch dramor

  • peidiwch â gadael eich cerdyn allan o'ch golwg, yn enwedig wrth brynu mewn bwytai a bariau 
  • peidiwch â datgelu eich PIN i neb, hyd yn oed os ydynt yn honni eu bod o’r heddlu neu o’ch cwmni cerdyn 
  • cuddiwch eich PIN gyda'ch llaw rydd wrth ei deipio i mewn i fysellbad mewn siop neu mewn peiriant arian parod 
  • gofalwch am eich eiddo bob amser - yn enwedig eich pasbortau, waled, pwrs, fisas, manylion cyfrif banc, tocynnau a gwybodaeth trefnu gwesty 


Pan fyddwch chi'n dychwelyd o'ch gwyliau 

  • gwiriwch eich cyfriflenni cardiau a banc yn ofalus rhag ofn bod trafodiadau anghyfarwydd neu arian wedi ei dynnu allan 
  • rhowch wybod cyn gynted â phosibl i'ch cwmni cerdyn credyd am unrhyw weithgarwch amheus.