Adeiladu cymdeithas decach
Gwneud y peth iawn i bobl a chymunedau.
Nid ni yw'r gymdeithas adeiladu fwyaf yn y DU, ond gyda'n gwreiddiau a'n canghennau ledled Cymru rydym yn gwneud cymaint ag y gallwn i gefnogi cymaint o bobl a chymunedau ag y gallwn, ym mhob ffordd bosibl. Rydym yn ei alw'n creu effaith y tu hwnt i'n graddfa.
Mae bod yn fusnes cyfrifol a gofalgar wrth wraidd ein diben. Rydym yn defnyddio ein cryfder ariannol i helpu i adeiladu cymunedau lleol cryfach a chymdeithas decach i bawb. Rydym yn buddsoddi hyd at 3% o'n helw cyn treth i wneud gwahaniaeth ystyrlon yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Adeiladu cymdeithas decach
-
£1 miliwn wedi’i roi
Ariannu prosiectau cymunedol drwy ein Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol.
-
£1.5 miliwn o gymorth i elusennau
Codi arian ar gyfer partneriaid elusennol ers 2014.
-
Partneriaethau effaith
Darparu rhaglenni addysg menter ledled Cymru.
Ariannu'r dyfodol
Mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru rydym wedi darparu grantiau ariannol i 97 o grwpiau elusennol a chymunedol drwy ein Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol. Rydym yn canolbwyntio ar wella bywydau pobl ifanc drwy gefnogi prosiectau llesiant, ariannol, addysg, amgylcheddol, digidol, y celfyddydau, cerddoriaeth, chwaraeon a chynhwysiant cymdeithasol. Ond nid rhoi arian yn unig y byddwn yn ei wneud, rydym yn meithrin perthnasoedd parhaol. Rydym yn cadw mewn cysylltiad â'r timau gwych sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn uniongyrchol i ddeall yn well sut y gallwn ddiwallu eu hanghenion sy’n newid.
Gwneud cyllid yn hygyrch i bawb
Gall y byd ariannol fod yn ddryslyd. Ond mae deall arian yn bwysig iawn. Felly rydym yn gweithio'n galed i'ch helpu i ddod yn fwy hyderus yn ariannol er mwyn gallu elwa i’r eithaf ar eich arian. Yn ffodus, cyllid yw ein bara menyn ni; rydym yn gwybod sut i helpu. Rydym yn darparu rhaglenni addysg ariannol mewn ysgolion. Rydym yn rhannu canllawiau dim ffwdan am sut i reoli arian. Ac rydym yn gwneud amser ar gyfer sgyrsiau go iawn - dros y ffôn neu mewn cangen.
Symudedd cymdeithasol drwy gyflogadwyedd
Ni ddylai dyfodol neb gael ei benderfynu gan ei ddechreuad mewn bywyd. Felly, rydym yn gweithio gyda phobl ifanc, yn enwedig y rhai nad oes ganddyn nhw o bosibl y cyfleoedd arferol, i gefnogi gydag addysg menter a helpu i ategu’r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i'w paratoi ar gyfer byd gwaith. Ac rydym yn dechrau'n gynnar!
Ein straeon
-
- Newyddion y gymdeithas
£1 miliwn ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol.
3 mins
-
- Straeon aelodau
Treialu ciosg arian parod yn ein cangen yn y Bont-faen.
4 mins
Felly, sut ydyn ni’n gwneud?
Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch ein taith effaith gymdeithasol. Rydym yn sicrhau ein bod yn mesur ein cynnydd ac yn rhannu ein canlyniadau'n agored.
-
Adroddiad Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol 1
PDF - 12.15MB (Yn agor mewn tab newydd)
-
Impact Report 2024
PDF - 65 MB (Yn agor mewn tab newydd)