Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)
Sut mae eich arian yn cael ei ddiogelu
Gadewch i ni eich helpu i gynilo a rheoli eich arian yn hyderus.
Pan fyddwch yn cynilo gyda Chymdeithas Adeiladu Principality, mae eich arian wedi'i ddiogelu gan gynllun diogelu adneuon DU. Yma, rydym yn egluro beth mae'r amddiffyniad hwnnw'n ei olygu, beth sydd wedi'i gynnwys, a sut mae'n berthnasol i'r gwahanol gynhyrchion a gynigiwn.
Gallwch gadarnhau a yw darparwr gwasanaethau ariannol wedi'i awdurdodi ar wefan FSCS. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn cymharu darparwyr neu'n ystyried gosod balansau mwy.
Am wybodaeth lawn gallwch chi bob amser fynd i wefan FSCS.
Crynodeb o'ch amddiffyniad gyda ni
Dysgwch fwy am eich amddiffyniadau cymwys gyda ni ac unrhyw eithriadau.
-
FSCS Information Sheet and Exclusion List
PDF - 92KB (Yn agor mewn tab newydd)
Cynilion
Mae eich adneuon cymwys a gedwir gan sefydliad Cymdeithas Adeiladu Principality yn y DU wedi'u diogelu hyd at gyfanswm o £120,000 gan yr FSCS, sef cynllun gwarantu adneuon DU. Mae'n annhebygol y bydd unrhyw adneuon sydd gennych uwchlaw'r terfyn yn cael eu diogelu.
Morgeisi
Efallai y bydd yr FSCS yn gallu helpu os yw cwmni wedi eich cynghori i ymrwymo i gytundeb morgais nad oedd yn addas i chi, a'ch bod wedi colli arian o ganlyniad. Gall yr FSCS dalu iawndal os bydd y cwmni hwnnw'n methu â thalu a'r lefel uchaf o iawndal yw £85,000 y pen fesul cwmni.
Yswiriant
Gall yr FSCS dalu iawndal os bydd eich darparwr yswiriant yn methu ac os nad yw'n gallu talu hawliadau dilys o dan eich polisi na dychwelyd eich premiymau. Ymhlith y mathau o bolisïau sy'n cael eu cynnwys mae polisïau yswiriant tymor hir fel yswiriant bywyd.
Canllaw i'r FSCS
Dysgwch fwy am yr FSCS a sut mae'n helpu i ddiogelu eich arian.
-
FSCS guide
PDF - 896KB (Yn agor mewn tab newydd)
Ateb eich cwestiynau am yr FSCS
Cynllun iawndal statudol y DU ar gyfer cwsmeriaid cwmnïau gwasanaethau ariannol awdurdodedig yw'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.
Mae'n bodoli i amddiffyn cwsmeriaid os bydd darparwr gwasanaethau ariannol yn methu ac yn methu â chyflawni ei rwymedigaethau.
Ariennir y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol gan y diwydiant gwasanaethau ariannol a chefnogir y cynllun gan Lywodraeth y DU.
Mae adneuon cymwys hyd at £120,000 y pen a gedwir gyda Chymdeithas Adeiladu Principality wedi'u diogelu gan y FSCS.
Mae hyn yn golygu, pe bai Principality yn methu, y byddai'r FSCS yn anelu at ad-dalu eich cynilion cymwys, hyd at y terfyn diogelu.
Mae diogelwch FSCS yn berthnasol i'r rhan fwyaf o gynhyrchion cynilo, gan gynnwys:
- ISAs arian parod
- Bondiau cyfradd sefydlog
- Cyfryon cynilo rheolaidd
- Cyfrifon cynilo mynediad rhwydd
Y terfyn amddiffyn FSCS cyfredol yw £120,000 y pen, fesul sefydliad awdurdodedig.
Os oes gennych fwy na £120,000 gydag un darparwr awdurdodedig, mae'n annhebygol y bydd unrhyw swm uwchlaw'r terfyn hwn yn cael ei gynnwys.
Cyfrifon ar y cyd a chyfrifon lluosog
Mae amddiffyniad yr FSCS yn gweithio fesul person, nid fesul cyfrif.
• Caiff cyfrifon ar y cyd eu hamddiffyn hyd at £120,000 fesul deiliad cyfrif (cyfanswm o £240,000).
• Os oes gennych chi nifer o gynhyrchion cynilo gyda'r un darparwr, caiff cyfanswm y balans ar draws yr holl gyfrifon cymwys ei adio at ei gilydd wrth gymhwyso'r terfyn o £120,000.
Mae amddiffyniad FSCS yn berthnasol i bob sefydliad awdurdodedig.
Os ydych yn cynilo gyda mwy nag un darparwr awdurdodedig, efallai y byddwch yn cael eich amddiffyn hyd at £120,000 gyda phob un, ar yr amod eu bod wedi'u hawdurdodi ar wahân.
Mae rhai cynilwyr yn dewis lledaenu balansau mwy ar draws gwahanol ddarparwyr i wneud y gorau o'u lwfans amddiffyniad.
Os bydd darparwr gwasanaethau ariannol yn methu:
- Mae'r FSCS yn ymyrryd i amddiffyn cwsmeriaid cymwys.
- Mae'r rhan fwyaf o hawliadau adneuo yn cael eu talu'n awtomatig.
- Nid oes angen i chi wneud hawliad yn y rhan fwyaf o achosion.
Nod yr FSCS yw gwneud y broses mor gyflym a syml â phosibl.
Gwybodaeth bellach
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan FSCS.