Skip to content

Principality: 6ed Gymdeithas Adeiladu fwyaf y DU

Crëwyd yng Nghymru. Yma i bawb.

A black and white photo of Principality Queen Street Branch.

Felly, pwy yw Principality?

  • Blynyddoedd o brofiad, yn adeiladu ar gyfer y dyfodol.

    Rydym yn llywio dyfodol gwell i'n haelodau gyda syniadau newydd a 165 mlynedd o wybodaeth.

  • Crëwyd yng Nghymru, yma i bawb.

    Ni yw'r chweched gymdeithas adeiladu fwyaf yn y DU. Mae hynny'n golygu gwreiddiau yng Nghymru a dylanwad cenedlaethol. (Rydym yn credu mai dyna'r cyfuniad perffaith). Yma i chi ar-lein ac yn bersonol.

  • Dan eich arweiniad chi ac yn eiddo i chi.

    Rydym yn gwneud hyn gyda'n gilydd, felly mae gennych chi lais o ran sut rydym yn gwneud pethau. Mae bod yn sefydliad cydfuddiannol yn golygu ein bod yn cael ein rhedeg er budd ein 500,000+ o aelodau.

Two young women in loungewear drinking tea at home.

Mae dros 500,000 o aelodau ledled y DU yn ymddiried ynom.

Mae ein gwasanaethau cynilion a morgeisi wedi derbyn rhubanau aur gan Fairer Finance. Rydym hefyd ymhlith y 10 darparwr gorau am 'Ymddiriedaeth' yn sgôr Profiad Cwsmer Fairer Finance ar gyfer Cynilion.

Barod i ddod yn aelod? Cyfrif cynilo neu forgais yw'r cyfan sydd ei angen arnoch, a dyna ni!

Fel aelod, gallwch ddweud eich dweud, a phleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. I fod yn gymwys i bleidleisio, bydd angen i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn, a bod o leiaf £100 yn eich cyfrif cynilion neu fod arnoch o leiaf £100 ar eich morgais ar 31 Rhagfyr y flwyddyn flaenorol. Eisiau gwybod y manylion? Ewch i'n tudalennau llywodraethiant corfforaethol a darllen Rheolau'r Gymdeithas.

Rydym yn dilyn rheolau Dyletswydd Defnyddwyr i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu gwerth teg a chanlyniadau da i gefnogi ein haelodau.


Rydym yn cael ein rheoleiddio gan y PRA a'r FCA, sy'n golygu bod yn rhaid i ni yn ôl y gyfraith ddilyn y rheolau hyn i roi eich buddiannau yn gyntaf, cadw eich arian yn ddiogel a sicrhau bod pethau'n deg.


Ond dydym ni ddim yn dilyn y rheolau hyn dim ond oherwydd bod yn rhaid i ni wneud; rydym ni'n eu dilyn gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae gofalu am ein haelodau yn ddewis rydym ni'n falch o'i wneud.

Mae eich tawelwch meddwl yn flaenoriaeth i ni. Rydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd profiadol sy'n sicrhau ein bod yn gweithredu'n ddiogel, yn dilyn pob rheoliad, ac yn amddiffyn ein haelodau. Hefyd, mae eich cynilion wedi'u diogelu gan yr FSCS hyd at £120,000 felly gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich dyfodol mewn dwylo diogel.

Fel cymdeithas adeiladu, rydym yn cadw rhan o'n helw yn ôl er mwyn aros yn ariannol gryf ar gyfer y dyfodol. Mae'r gweddill yn mynd yn syth yn ôl at wneud yr hyn sy'n bwysig: gwella ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, cynnig cyfraddau morgais a chynilo cystadleuol, a chefnogi'r cymunedau rydym yn rhan ohonynt. Mae hynny'n cynnwys ein partneriaethau elusennol a mentrau fel Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n helpu i greu cyfleoedd gwell i bobl ifanc.


Ein heffaith (ar y cae a thu hwnt)

Rydym yn buddsoddi mewn cael effaith barhaol ar gymunedau. Mae hynny'n golygu meithrin partneriaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r foment ac yn gadael gwaddol.

Boed hynny'n ymwneud â'n prif nawdd o Stadiwm Principality eiconig, neu bartneriaethau lleol, mentrau elusennol, neu gefnogi rygbi ar lawr gwlad.

Rydym wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar y cymunedau sy'n bwysig i'n haelodau.

Principality Stadium at night with fireworks with the proud sponsors of Principality Stadium logo in the top left corner

Newyddion y Gymdeithas

Y newyddion diweddaraf gan ein busnes. Dewch o hyd i ddiweddariadau gan ein tîm arwain, y wybodaeth ddiweddaraf am ein partneriaethau elusennol, a sut rydym yn rhedeg y gymdeithas.

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Dewch yn aelod

Mae dod yn aelod yn syml: sicrhewch fod gennych gyfrif cynilo neu forgais gyda ni, a dyna chi!