Skip to content

Cael Teuluoedd i Symud yn Sioe Frenhinol Cymru

Dylan y Ddraig, Cymdeithas Adeiladu Principality, Stadiwm Principality

Yn yr erthygl hon

Bydd y cyn-dyfarnwr rygbi rhyngwladol o Gymru, Nigel Owens, yn helpu teuluoedd i fod yn egnïol yr haf hwn wrth iddo ymuno â Chymdeithas Adeiladu Principality yn Sioe Frenhinol Cymru i lansio 'Ras Gyfnewid Wledig Dylan' – her wledig newydd sydd wedi'i chynllunio i ddod â phobl o bob oedran at ei gilydd drwy chwaraeon.

Gweithgareddau i'r teulu yn y Pentref Chwaraeon

Mae'r gweithgareddau i deuluoedd – sy'n rhan o nawdd blaenllaw Principality i'r Pentref Chwaraeon ac a gynhelir mewn partneriaeth ag Athletau Cymru – wedi'u hysbrydoli gan gefnogaeth barhaus y Gymdeithas i Dîm Cymru yn y cyfnod cyn Gemau'r Gymanwlad.

Drwy 'Ras Gyfnewid Wledig Dylan', mae Principality yn gobeithio dod ag ysbryd chwaraeon Cymru at deuluoedd yn y sioe, gan annog cenedlaethau i gymryd rhan ym mhopeth o rasys cyfnewid berfâu a heriau rhwystrau i rasys baton. Y nod yw annog ymwelwyr i groesawu chwaraeon, gwaith tîm ac ychydig o gystadleuaeth iach, wrth ddathlu traddodiadau chwaraeon a gwledig cyfoethog Cymru.

Bydd Dylan, masgot Principality, hefyd wrth law drwy gydol yr wythnos i annog y cyfranogwyr a chyflwyno medalau, gan greu digonedd o gyfleoedd i deuluoedd gymryd rhan gyda'i gilydd.

Nigel Owens ar Ras Gyfnewid Wledig Dylan

Dywedodd Nigel Owens: "Mae Sioe Frenhinol Cymru wastad wedi bod yn arbennig i mi gan ei bod yn dod â'r gorau oll o amaethyddiaeth Cymru, bywyd gwledig a'n cymunedau ynghyd. Ar ôl treulio llawer o fy mywyd ar gaeau rygbi ac ar y fferm, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw gwaith tîm ac ysbryd cymunedol.

“Mae Ras Gyfnewid Wledig Dylan yn ffordd wych o gynnwys teuluoedd, cael ychydig o hwyl a dathlu popeth sy'n wych am Gymru. Rwy'n edrych ymlaen at weld teuluoedd yn cymryd rhan ac, gobeithio, ysbrydoli rhai pencampwyr y dyfodol ar hyd y ffordd.."

Yr hyn y gall ymwelwyr ei ddisgwyl

Bydd y Pentref Chwaraeon yn cynnal gweithgareddau drwy gydol y Sioe, gan roi cyfle i ymwelwyr o bob oed gymryd rhan, cwrdd â Nigel Owens a dathlu chwaraeon Cymru yn un o leoliadau mwyaf annwyl y wlad. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i gwrdd â thîm Principality, dysgu mwy am y gefnogaeth y mae'r Gymdeithas yn ei rhoi i gymunedau ledled Cymru, a chael gafael ar dalebau cyfrifon cynilo unigryw sydd ar gael yn ystod y Sioe.

Cefnogaeth Principality i gymunedau ledled Cymru

Dywedodd Iain Mansfield, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae Sioe Frenhinol Cymru yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Cymru, gan arddangos cryfder cymunedau gwledig a’r rôl y maent yn ei chwarae wrth gyfrannu at economi amaethyddol ehangach a ffyniant Cymru.
Fel cymdeithas adeiladu sy'n eiddo i'n cwsmeriaid, rydym yn falch o gefnogi digwyddiad sy'n dod â chymunedau o bob rhan o Gymru at ei gilydd, ac sy'n rhoi cyfle gwych i ni gwrdd â'n haelodau wyneb yn wyneb. Drwy ein partneriaethau â Thîm Cymru ac Athletau Cymru, rydym yn falch o gefnogi Ras Gyfnewid Wledig Dylan a helpu mwy o deuluoedd i brofi manteision chwaraeon a gweithgareddau gyda'i gilydd. Edrychwn ymlaen at groesawu aelodau ac ymwelwyr i'r Pentref Chwaraeon.”


Partneriaeth Athletau Cymru

Dywedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru: "Mae Athletau Cymru yn falch iawn o gefnogi Principality yn Sioe Frenhinol Cymru. Rydym yn rhannu angerdd dros annog pobl ifanc ledled Cymru i fod yn egnïol ac i fwynhau elfennau sylfaenol ein camp.I ni, y nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn mwynhau eu camp, yn cael profiad gwirioneddol gadarnhaol ac yn parhau â'r angerdd hwnnw am symud drwy gydol eu bywydau.”

Pryd y cynhelir Ras Gyfnewid Wledig Dylan


Cynhelir Ras Gyfnewid Wledig Dylan yn ystod Sioe Frenhinol Cymru ym Mhentref Chwaraeon y sioe ddydd Mawrth 21 a dydd Mercher 22 Gorffennaf.