Skip to content

Sut i ddewis ISA arian parod sy'n addas i chi

Male customer with cart is shopping during leisure time. He is in casuals.

Yn y canllaw hwn

Mae ISA arian parod yn caniatáu i chi ennill llog ar eich cynilion. Felly gall deall pryd rydych yn talu treth ar eich cynilion eich helpu i benderfynu ai ISA yw'r dewis cywir i chi.

Nid yw pob ISA yn gweithio yn yr un ffordd. O fynediad rhwydd i gyfradd sefydlog - gall dewis y math cywir o ISA eich helpu i elwa i'r eithaf ar eich lwfans 2026/2027. 

Mae'r canllaw hwn yn trafod yr hyn y dylech ei ystyried. Felly gallwch ddod o hyd i ISA arian parod sy'n addas i'ch nodau, p'un a ydych chi'n cynilo ar gyfer y tymor byr neu'r tymor hir.

Mae'r llywodraeth yn gwneud rhai newidiadau i ISAs yn y flwyddyn dreth 2027/2028.

Er bod gan bawb gyfanswm lwfans ISA o £20,000 o hyd, mae'r rheolau yn newid. O 6 Ebrill 2027 ymlaen, dim ond hyd at £12,000 o gyfanswm eu lwfans ISA y gall unrhyw un o dan 65 oed ei dalu i mewn i ISAs arian parod.

I ddysgu mwy, darllenwch ein rheolau newidiadau i ISAs arian parod neu ewch i GOV.UK am y wybodaeth ddiweddaraf.

Pam dewis ISA?

ISA yw cyfrif cynilo di-dreth sydd ar gael i breswylwyr y DU sy'n 18 oed neu'n hŷn.

Mae'r llog rydych chi'n ei ennill yn ddi-dreth ac nid yw'n cyfrif tuag at eich Lwfans Cynilo Personol.

Gallwch gynilo hyd at £20,000 mewn ISA bob blwyddyn dreth. Os ydych chi'n newydd i ISA, edrychwch ar ein canllaw i ddechreuwyr ar reolau ISAs arian parod.

Mathau o gyfrifon ISA arian parod

Gydag ystod o ISAs arian parod i ddewis ohonynt, mae opsiwn sy'n addas ar gyfer gwahanol nodau a ffyrdd o fyw o ran cynilo. Bydd yr opsiwn cywir i chi yn dibynnu ar ba mor aml y mae angen i chi gael mynediad at eich arian ac a ydych yn fodlon gadael eich arian heb ei gyffwrdd am gyfnod.

Math Nodwedd allweddol Y gorau os...
ISA arian parod mynediad rhwydd Gallwch godi arian o'r cyrfif unrhyw bryd. Mae rhai cyfrifon ISA arian parod yn ISAs hyblyg. Mae hyn yn golygu y gallwch roi'r arian a godwyd gennych yn ôl i'r cyfrif o fewn yr un flwyddyn dreth. Rydych chi eisiau hyblygrwydd i ddefnyddio'ch cynilion.
ISA arian parod cyfradd sefydlog Caiff yr arian ei gloi i ffwrdd am gyfnod penodol. Os ydych chi am gael mynediad at eich arian cyn i'r cyfnod ddod i ben, fel arfer bydd angen i chi gau'r cyfrif. Gallai hyn olygu eich bod yn colli allan ar log neu'n gorfod talu ffi. Rydych chi eisiau cyfradd sicr ac nid oes angen i chi godi arian o gwbl.
ISA arian parod cynilo rheolaidd Disgwylir i chi ychwanegu arian yn rheolaidd. Rydych chi eisiau ychwanegu at eich cynilion.

 

Cyn i chi ddewis ISA, meddyliwch pa mor aml y byddwch chi eisiau cael mynediad at eich arian, ac a ydych chi'n hapus i'w gloi i ffwrdd.

Gallwch drosglwyddo eich ISA i ddarparwr arall ar unrhyw adeg. Byddwch yn ymwybodol bod gan rai cyfrifon amodau.

Efallai y byddwch yn colli llog neu y bydd angen i chi dalu ffi os byddwch yn trosglwyddo'n gynnar, yn enwedig gyda chyfrifon ISA cyfradd sefydlog.

Cadarnhewch y telerau bob amser cyn symud.

Sut i gymharu cyfrifon ISA arian parod

Cyn dewis ISA arian parod, cymharwch y nodweddion allweddol hyn:

Cyfradd llog: A yw'n sefydlog neu'n amrywiol? Mae dewis opsiwn sefydlog yn golygu cloi eich arian am gyfnod penodol.

Rheolau mynediad: Allwch chi godi arian neu gau'r cyfrif yn gynnar? A fyddwch yn talu ffioedd neu'n colli llog os byddwch yn gwnued hynny?

Terfynau adneuo: Faint sydd ei angen arnoch i agor y cyfrif? Allwch chi ei ychwanegu'n ddiweddarach?

Hyd y cyfnod: Os yw'n ISA sefydlog, am ba hyd mae eich arian wedi'i gloi i ffwrdd?

Diogelwch gan y FSCS: Er mwyn cael tawelwch meddwl, gwnewch yn siŵr bod eich darparwr yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ac yn dod o dan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS).

Cadarnhewch y telerau ac amodau bob amser cyn gwneud cais am unrhyw gyfrif cynilo.

Mae eich cynilion wedi'u diogelu

Mae cyfrifon ISA Arian Parod gan fanciau a chymdeithasau adeiladu a reoleiddir yn y DU wedi'u cynnwys o dan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Mae hyn yn diogelu cynilion cymwys hyd at £120,000 y pen, fesul darparwr.

Os oes gennych fwy na £120,000 mewn cynilion, meddyliwch am ei rannu ar draws gwahanol ddarparwyr. Gall hyn helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich diogelwch.

Yn barod i archwilio'ch opsiynau? Gweler ein ISAs arian parod diweddaraf a dewch o hyd i un sy'n addas i'ch nodau cynilo. 

An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Porwch ein dewis o gyfrifon ISA arian parod

Edrychwch ar ein dewis o gyfrifon ISA Arian Parod i ddod o hyd i un sy'n cyd-fynd â'ch nodau cynilo.