Prisiau tai yng Nghymru yn sefydlogi wrth i werthiannau gynyddu
Yn yr erthygl hon
Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym?
Pris cyfartalog cartref yng Nghymru oedd £238,098 yn ail chwarter 2025, sef cynnydd o 0.7% o'r naill flwyddyn i'r llall a dim ond 4.6% islaw ei uchafbwynt o £249,000 yn 2022.
Rhyddhawyd y ffigurau gan Gymdeithas Adeiladu Principality yn ei Mynegai Prisiau Tai Cymru ar gyfer Ch2 2025 (Ebrill - Mehefin), sy'n dangos y cynnydd a'r gostyngiad mewn prisiau tai ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Er gwaethaf pwysau fforddiadwyedd parhaus, mae'r cynnydd cyson yn nifer y trafodion – a gyrhaeddodd dros 10,000 yn Ch2 (sef cynnydd o 13% ar y llynedd) – yn awgrymu hyder cynyddol gan brynwyr er gwaethaf heriau parhaus o ran costau byw a chyfraddau uwch.
Newidiadau yn ôl awdurdod lleol
Nododd Torfaen y newid uchaf o ran prisiau chwarterol o unrhyw awdurdod lleol sef 14%, wedi'i ysgogi gan werthiannau gwerth uchel cyfnodol a chyflenwad tai cyfyngedig. Noddodd Caerfyrddin gynnydd o 6.3% hefyd, tra gwelodd Sir y Fflint gynnydd chwarterol o 3.3%.
Gwelodd ardaloedd eraill, gan gynnwys Gwynedd, ostyngiad mewn prisiau yn Ch2, gan ostwng 7.3% o'i gymharu â chwarter cyntaf 2025. Gostyngiad a ddylanwadwyd yn ôl pob tebyg gan newidiadau polisi fel addasiadau Llywodraeth Cymru i drethiant ail gartrefi ac effaith rheoliadau cynllunio newydd. Mae ymchwil Cymdeithas Adeiladu Principality, yn seiliedig ar ddata Cofrestrfa Tir EF, yn datgelu mai Ch2 yw'r pedwerydd chwarter yn olynol gyda mwy na 10,000 o werthiannau, gan awgrymu bod gwerthiannau eiddo yn dangos arwyddion o adfer.
Gair gan ein Prif Swyddog Ariannol
Wrth siarad am Fynegai Prisiau Tai Ch2, dywedodd Iain Mansfield, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Parhaodd y farchnad dai yng Nghymru i sefydlogi yn ail chwarter 2025, gyda phrisiau’n aros yn weddol wastad o’i gymharu â dechrau’r flwyddyn. Yn galonogol, mae’r cynnydd cyson yn nifer y trafodion yn arwydd o hyder cynyddol ymhlith prynwyr. Er bod amodau’r farchnad yn parhau i fod yn heriol, mae tuedd ar i lawr mewn cyfraddau morgeisi yn helpu i greu amgylchedd mwy ffafriol i brynwyr. Mae’r newid hwn yn cyfrannu at gynnydd graddol mewn hyder defnyddwyr wrth i ni symud i ail hanner 2025.”
Her o ran cyflenwad a fforddiadwyedd
Rhagwelir y bydd toriadau cyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn ysgogi fforddiadwyedd pellach i brynwyr yng Nghymru, gan gyfrannu at y cynnydd mewn trafodion eiddo yn erbyn cefndir o gyfraddau rhentu cynyddol. O'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, mae'r gyfradd morgais sefydlog ddwy flynedd ar gyfartaledd wedi gostwng o tua 5.56%* i tua 4.68%* yn 2025. Er bod prisiau tai yn aros yn sefydlog o'r naill flwyddyn i'r llall, mae cost rhentu'r cartref cyffredin wedi cynyddu 8.5% yn y 12 mis hyd at fis Mai.
Mae cyflenwad tai yn parhau i fod yn her allweddol yng Nghymru a ledled y wlad, yn enwedig tai fforddiadwy a thai cymdeithasol. Nod newidiadau polisi, gan gynnwys ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyflenwad tai fforddiadwy a chynlluniau i weithredu argymhellion ei Thasglu Tai Fforddiadwy, yw mynd i'r afael â heriau parhaus o ran cyflenwad a lleddfu pwysau ar y farchnad dai.
Mae'r ymrwymiad rhanbarthol hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu ar lefel genedlaethol, gyda Llywodraeth y DU yn dangos ei bwriad drwy gyhoeddiad y Canghellor o fuddsoddiad o £39bn mewn tai fforddiadwy a chymdeithasol dros y degawd nesaf.
Principality fel rhan o'r ateb
Mae Iain yn parhau: “Fel busnes, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar fod yn rhan o'r ateb o ran pwysau'r galw o fewn y farchnad dai yng Nghymru. O eleni ymlaen, rydym yn falch o gefnogi 19 o 32 o gymdeithasau tai yng Nghymru – gyda'r nod o gael gwared ar rwystrau er mwyn helpu i gefnogi pawb i gael lle i'w alw'n gartref.
Fel mae'r adroddiad yn ei ddangos, mae twf prisiau wedi arafu'r chwarter hwn. Wrth edrych ymlaen, rydym yn disgwyl i'r farchnad gyflymu. Bydd gwella fforddiadwyedd yn ffactor arwyddocaol sy'n mynd law yn llaw â hyder defnyddwyr yn cynyddu - yn enwedig i brynwyr tro cyntaf - wedi'i ysgogi gan gyfraddau llog sy'n gostwng a thelerau morgais mwy ffafriol, gan gynyddu'r galw yn ôl pob tebyg. Gyda'r galw'n cynyddu a'r cyflenwad yn parhau i fod yn her i brynwyr ledled y wlad, rydym yn rhagweld gweithgarwch marchnad newydd yn ail hanner y flwyddyn.”
*Philips, "Biggest Monthly Drop In Two-Year Mortgages" Moneyfactscompare (2024)
*Hammond, "What Are The UK Mortgage Rates Today?" Uswitch (2025)
*Private rent and house prices, UK - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2025)
- Newyddion y gymdeithas