Skip to content

Lansio'r Pedwerydd OneBanx yng Nghymru

Principality Colleagues with OneBanx Kiosk at Maesteg Branch

Yn yr erthygl hon

Hybu mynediad at arian parod mewn ardal yr effeithiwyd arni gan fanciau'n cau, drwy bartneriaeth ag arloeswr rhannu bancio OneBanx.

Wedi'i gynnal yng nghangen Principality Maesteg, mae OneBanx a Principality yn lansio caban gwasanaeth arian parod. Hwn fydd y pedwerydd o’i fath sydd ar gael yng Nghymru, drwy'r gymdeithas adeiladu. Mae hyn yn cyflawni ymrwymiad y Gymdeithas i gynnal ei phresenoldeb ar y stryd fawr a'r gymuned, tan o leiaf ddiwedd 2030. Wedi'i gyhoeddi fel rhan o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y sefydliad ym mis Ebrill, mae Principality wedi ymestyn ei hymrwymiad i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gan gydnabod pwysigrwydd presenoldeb ar y stryd fawr, mynediad at arian parod a gwasanaethau personol ar gyfer ei Haelodau.  

Dod â gwasanaethau bancio yn ôl

Ers 2023, mae'r Gymdeithas wedi gweithredu'r cabanau yn y Bont-faen, Caerffili a Llyfrgell Bwcle, gan sicrhau bod gwasanaethau bancio yn fwy hygyrch i gymunedau yng Nghymru.

Mae'r gwasanaeth yn galluogi unigolion a chwsmeriaid busnes y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu mawr i adneuo a thynnu allan arian parod heb orfod defnyddio cerdyn. Nid oes tâl am y gwasanaeth ac mae arian ar gael i'r cwsmer ar unwaith. Mae'r gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg hefyd. 

Bydd cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i'r caban yn ystod amseroedd agor canghennau chwe diwrnod yr wythnos, gyda chefnogaeth cydweithwyr canghennau Principality.

Gair gan ein Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid Cynilo

Dywedodd Kelly Young, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid Cynilo Cymdeithas Adeiladu Principality: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi y bydd Principality yn gosod pedwerydd caban OneBanx, y tro hwn yn ein cangen ym Maesteg.

Mae ein haelodau'n dweud wrthym fod mynediad at arian parod a gwasanaethau hanfodol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol - mae'n cadw'r stryd fawr yn fywiog ac yn rhoi hyder i'n haelodau, cydweithwyr a chymunedau. Mewn ardal sydd wedi teimlo effaith cau banciau, rydyn ni’n credu y bydd y gwasanaeth hwn, ynghyd â'n hymrwymiad parhaus i'r stryd fawr, yn helpu trigolion a busnesau i reoli eu cyllid a chryfhau'r gymuned a'r economi leol."

Clywch gan Brif Swyddog Gweithredol OneBanx

Dywedodd Javed Anjum, Prif Swyddog Gweithredol OneBanx: "Rydyn ni'n falch iawn o barhau i ehangu ein partneriaeth strategol gyda Chymdeithas Adeiladu Principality, i gefnogi eu hymrwymiad i'w haelodau a chwsmeriaid banciau eraill nad ydynt erbyn hyn yn gallu mynychu cangen leol.

Rydyn ni yn OneBanx o’r farn y dylai technoleg agor drysau yn hytrach na'u cau. Mae ein platfform nid yn unig yn sicrhau mynediad parhaus at arian parod, ond hefyd yn helpu cwsmeriaid a busnesau i ddod yn fwy hyderus wrth reoli eu harian mewn oes ddigidol. Trwy gyfuno arloesedd â gwasanaethau dibynadwy wyneb yn wyneb, rydyn ni’n galluogi cymunedau i groesawu ffyrdd newydd o fancio gan gadw'r stryd fawr yn fywiog ac yn gynhwysol i bawb."