Ehangu ein presenoldeb dros y ffin gydag asiantaeth newydd yn Thornbury
Yn yr erthygl hon
Agoriad yn nodi pedwerydd lleoliad y Gymdeithas y tu allan i Gymru wrth iddi barhau i gryfhau cydberthnasau â chwsmeriaid.
Rydym wedi agor asiantaeth newydd yn swyddogol yn Thornbury, ger Bryste, i feithrin cydberthnasau cryfach â chwsmeriaid yn Lloegr.
Dechreuodd yr asiantaeth groesawu cwsmeriaid yng nghanol mis Medi, cyn y digwyddiad agor swyddogol ddydd Llun 5 Hydref. Mae'r lleoliad newydd yn dod ag agwedd Principality – sy'n canolbwyntio ar aelodau – i gymuned newydd, gan helpu i gynnal mynediad at wasanaethau ariannol sy'n cynnig cyswllt dynol yn yr ardal.
Mae'n cynrychioli cam pwysig arall yn uchelgais y Gymdeithas i feithrin cydberthnasau cryfach â chwsmeriaid, ac i wasanaethu mwy o Aelodau ledled Lloegr.
Pam mae Thornbury mor bwysig
Dywedodd Iain Mansfield, Prif Swyddog Gweithredol, yng Nghymdeithas Adeiladu Principality:
"Mae agor yn Thornbury yn gam nesaf cyffrous yn nhaith Principality. Mae ehangu ein presenoldeb ar y stryd fawr gyda phedwerydd lleoliad y tu allan i Gymru yn golygu y gallwn gynnig ein gwasanaethau i fwy o gwsmeriaid.
Fel sefydliad cydfuddiannol modern, mae'r elfen ddynol y mae pobl yn ei gwerthfawrogi cymaint gennym yn wirioneddol bwysig. Mae'r elw masnachol a wnawn fel busnes yn tanio ein pwrpas, gan ein galluogi i roi yn ôl i'r cymunedau lle rydym yn gweithredu – gan feithrin cydberthnasau cryfach a helpu mwy o gwsmeriaid i gynilo a bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain."
Mae asiantaeth Thornbury yn adeiladu ar bresenoldeb hirsefydlog Principality, sy'n cynnwys 53 o ganghennau a 15 o asiantaethau, gan gryfhau ei rhwydwaith mewn cymunedau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
- Newyddion y gymdeithas