Skip to content

Yn cyflwyno ein Prif Swyddog Masnachol cyntaf i ysgogi uchelgeisiau twf

Peter Dockar - Incoming CCO, Principality Building Society

Yn yr erthygl hon

Heddiw, mae Cymdeithas Adeiladu Principality, y chweched gymdeithas gydfuddiannol fwyaf yn y DU a’r busnes mwyaf yng Nghymru sy’n eiddo i’w gwsmeriaid, wedi cyhoeddi penodiad Prif Swyddog Masnachol.

Bydd Pete Dockar yn ymuno â'r tîm gweithredol ddiwedd mis Medi i ddod â'r prif dimau sy'n delio â chwsmeriaid ynghyd, gan uno busnesau cynilion, morgeisi, rhwydwaith canghennau a benthyca masnachol y Gymdeithas. 

Ysgogi perfformiad

Fel rôl newydd i'r busnes, bydd y swydd Prif Swyddog Masnachol yn canolbwyntio ar ysgogi canlyniadau masnachol ar draws llinellau cynnyrch y Gymdeithas, gan helpu i gydbwyso anghenion cynilwyr a benthycwyr a symud yn gynt mewn marchnad gynyddol gystadleuol. Bydd y rôl newydd hefyd yn defnyddio data a thechnoleg i wella profiadau cwsmeriaid er mwyn hybu perfformiad masnachol gwell a gwerth i Aelodau.

Daw hyn ar ôl i Brif Swyddog Gweithredol y cwmni cydfuddiannol nodi ffocws newydd ar wella canlyniadau digidol i gwsmeriaid ac Aelodau yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Ebrill.  Bydd hefyd yn goruchwylio presenoldeb cangen digymar y Gymdeithas – y mwyaf o unrhyw ddarparwr gwasanaethau ariannol yng Nghymru.

Mae Dockar yn ymuno o Gen H, lle mae wrthi'n gwasanaethu fel Prif Swyddog Masnachol, gan fod yn gyfrifol am dwf, arloesi ac ehangiad y busnes. Mae ganddo brofiad arwain helaeth gyda sefydliadau bancio manwerthu mawr, gan gynnwys HSBC a Virgin Money.

Mae ein Prif Weithredwr yn croesawu'r penodiad

Dywedodd Iain Mansfield, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rwyf wrth fy modd yn croesawu Pete i'r Gymdeithas. Bydd ei brofiad masnachol a'i angerdd diffuant dros y rôl y mae cymdeithasau cydfuddiannol yn ei chwarae wrth wella canlyniadau i gwsmeriaid yn werthfawrwrth i ni barhau i drawsnewid y Gymdeithas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o Aelodau.

Mae'r rôl yn dod â'n busnesau Cynilo, Morgeisi a Benthyca Masnachol ynghyd o dan un to – o'r cyfrifon cynilion y mae Aelodau'n eu hagor gyda ni, i ariannu cartrefi newydd ledled y wlad a helpu pobl i gael allweddi eu cartref eu hunain; mae'n rôl a fydd yn creu gwerth i Aelodau a chwsmeriaid o'r cychwyn cyntaf.

Mae ymuno â ni yn gam pwysig wrth feithrin y gallu sydd ei angen arnom i lwyddo mewn marchnad sy'n newid, gan greu mwy o werth i'n haelodau a chryfhau ein perfformiad hirdymor.”  

Adeiladu ar ddiben cydfuddiannol Principality

Dywedodd Pete Dockar, Prif Swyddog Masnachol newydd Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydw i wastad wedi credu y dylai gwasanaethau ariannol gyd-fynd â bywydau pobl – nid i'r gwrthwyneb.

Rwyf wedi treulio fy ngyrfa yn helpu pobl i gael mynediad at y cynhyrchion ariannol sydd eu hangen arnynt i greu sicrwydd a chyflawni eu nodau, ac mae hwnnw'n genhadaeth sydd wrth wraidd Principality hefyd.

Rwy'n edrych ymlaen at fwrw ati a datblygu cyd-etifeddiaeth yr ydym yn falch ohonni.” 

Yn dilyn penodiad Iain Mansfield yn Brif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas ym mis Tachwedd y llynedd, mae Principality wedi parhau i fuddsoddi yn yr arweinyddiaeth a’r galluoedd sydd eu hangen i ysgogi trawsnewidiad digidol, gan sicrhau bod y Gymdeithas yn parhau i fod yn berthnasol ar gyfer y dyfodol ac yn canolbwyntio ar gyflawni ei diben – creu cymdeithas o gynilwyr lle mae gan bawb le i’w alw’n gartref.